1Ac wedi deuddydd yr oedd y Pasc a'r Bara Croyw; a'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy gyfrwys ddichell, ac y lladdent ef:
2canys hwy a ddywedasant, Nid ar yr wyl, rhag y bydd terfysg yn mhlith y bobl.
Cof‐arwydd Mair[Mat 26:6–13; Ioan 12:1–9]3Ac fel yr oedd efe yn Bethania, yn nhŷ Simon y Gwahan‐glwyfus, ac yr eisteddai i fwyta, daeth gwraig a chanddi lestr alabaster o enaint o nard pur gwerthfawr; a hi a dorodd y llestr alabaster, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.
4Ond yr oedd rhai y bu ddigllawn ganddynt yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd
, I ba amcan y mae y golled hon o'r enaint wedi cymmeryd lle?5Oblegyd fe a allasid gwerthu yr enaint hwn am fwy na thri chan denarion, a'i roddi i'r tlodion: a hwy a rwgnachasant yn uchel yn ei herbyn hi.
6Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadêwch iddi: paham y trallodwch hi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi.
7Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan ewyllysioch, chwi a ellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
8Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth.
9Ac yn wir meddaf i chwi, Pa le bynag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffadwriaeth am dani.
Judas Iscariot ac “arian y gwaed”[Mat 26:14–16; Luc 22:3–6]10A Judas Iscariot, yr hwn oedd un o'r Deuddeg, a aeth ymaith at yr Arch‐offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.
11A phan glywsant, bu lawen ganddynt, ac a addawsant roddi arian iddo. Ac efe a geisiodd pa fodd y gallai ar adeg gyfleus ei fradychu ef.
Y Pasc olaf, a'r Swper gyntaf[Mat 26:17–25; Luc 22:7–18, 21–23; Ioan 13:1–30]12A'r dydd cyntaf o'r Bara Croyw, pan yr aberthent y Pasc, ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, I ba le yr wyt yn ewyllysio i ni fyned a pharotoi i ti i fwyta y Pasc?
13Ac y mae efe yn anfon dau o'i Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Ewch i'r Ddinas, a chyferfydd a chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dylynwch ef.
14A pha le bynag yr êl i mewn, dywedwch wrth Feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Pa le y mae fy ngwest‐ystafell, lle y gwnaf fwyta'r Pasc gyda'm Dysgyblion?
15Ac efe a ddengys i chwi oruwch‐ystafell fawr, wedi ei dodrefnu yn barod: yno parotowch i ni.
16A'i Ddysgyblion a aethant allan, ac a ddaethant i'r Ddinas, ac a gawsant megys y dywedasai efe wrthynt, ac a barotoisant y Pasc.
17A phan ddaeth yr hwyr, y mae efe yn dyfod gydâ'r Deuddeg.
18Ac fel yr oeddynt yn eistedd wrth y bwrdd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i, sef yr hwn sydd yn bwyta gydâ mi.
19A hwy a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho, bob yn un ac un, Ai myfi?.
20Ac efe a ddywedodd, Un o'r Deuddeg: yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddysgl.
21Canys Mab y Dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig am dano.; ond gwae i'r dyn hwnw, trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu! Da fuasai i hwnw pe nas ganesid ef.
Swper yr Arglwydd[Mat 26:26–30; Luc 22:19, 20; 1 Cor 11:23–25]22Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a gymmerodd fara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, ac a ddywedodd, Cymmerwch; hwn yw fy nghorff.
23Ac efe a gymmerodd gwpan, ac a ddiolchodd, ac a'i rhoddodd iddynt: a hwynt oll a yfasant o hono.
24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i, o'r Cyfamod, yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros lawer.
25Yn wir meddaf i chwi, Ni yfaf, na, ddim mwy, o gynyrch y winwydden, hyd y dydd hwnw, pan yfwyf ef yn newydd yn Nheyrnas Dduw.
26Ac wedi iddynt ganu, hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd.
Rhag‐fynegiad cwymp y Dysgyblion, a gwadiad Petr[Mat 26:31–35; Luc 22:31–34; Ioan 13:36–38]27A'r Iesu a ddywed wrthynt, chwi oll a rwystrir; canys y mae yn ysgrifenedig,
Mi a darawaf y bugail,
A'r defaid a wasgerir ar led.
28Ond wedi fy adgyfodi i, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilea.
29Eithr Petr a ddywedodd wrtho, hyd y nod pe rhwystrid pawb, er hyny ni'm rhwystrir i.
30A dywed yr Iesu wrtho, Yn wir meddaf i ti, Tydi, heddyw, y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, a'm gwedi deirgwaith.
31Ond efe a lefarodd yn fwy taer o lawer, Pe gorfyddid i mi farw gydâ thi, ni'th wadaf o gwbl. A'r un modd y dywedasant oll.
Ing Gethsemane[Mat 26:36–46; Luc 22:39–46; Ioan 18:1, 2]32Ac y maent yn dyfod i lanerch o'r enw Gethsemane, ac efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddio.
33Ac y mae efe yn cymmeryd gydâg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd fod mewn dychryn ac adfyd;
34ac a ddywed wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: aroswch yma a chedwch yn effro.
35Ac efe a aeth ychydig yn mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddiodd, o bai bosibl, ar fyned heibio o'r Awr oddiwrtho.
36Ac efe a ddywedodd, Abba, Dâd, pob peth sydd bosibl i ti: symud y cwpan hwn oddiwrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.
37Ac y mae efe yn dyfod ac yn eu cael hwy yn cysgu; ac a ddywed wrth Petr, Simon, a wyt ti yn cysgu? oni allit gadw yn effro un awr?
38Byddwch effro, a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd ewyllysgar, ond y cnawd sydd wan.
39A thrachefn efe a aeth ymaith, ac a weddiodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.
40A chan ddyfod drachefn, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau yn ddirfawr; ac ni wyddent beth i ateb iddo.
41Ac y mae efe yn dyfod y drydedd waith, ac yn dywedyt wrthynt, Cysgwch o hyn allan, a gorphwyswch: y mae yn mhell oddiwrthyf fi
; daeth yr Awr: Wele, y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylaw pechaduriaid.42Cyfodwch, awn; wele, fy mradychwr i wedi agoshâu.
Crist yn cael ei fradychu a'i ddal[Mat 26:47–56; Luc 22:47–53; Ioan 18:3–11]43Ac yn ebrwydd, ac efe eto yn llefaru, y mae Judas, un o'r Deuddeg gydâ chleddyfau a bastynau oddiwrth yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'r Henuriaid.
44Ac yr oedd ei Fradychwr ef wedi rhoddi iddynt arwydd‐nod, gan ddywedyd, Pwy bynag a gusanwyf, hwnw yw efe: deliwch ef, ac arweiniwch ef ymaith yn ddyogel.
45A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac y mae yn dywedyd wrtho, Rabbi, ac a'i cusanodd ef yn eofn.
46A hwy a roisant ddwylaw arno, ac a'i daliasant.
47Ac un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ef.
48A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megys yn erbyn yspeiliwr y daethoch allan, gydâ chleddyfau, a bastynau, i'm cymmeryd i?
49Yr oeddwn i beunydd gydâ chwi yn y Deml yn dysgu, ac ni'm daliasoch: ond hyn a wnaed fel y cyflawnid yr Ysgrythyrau.
50A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.
51A rhyw wr ieuangc oedd yn cyd‐ganlyn gydâg ef; wedi ymwisgo mewn cwrlid o lian costfawr ar ei gorff noeth; a hwy a'i daliasant ef.
52Ac efe a adawodd y cwrlid o lian costfawr, ac a ffodd yn noeth.
Crist o flaen y Cynghor; y cam‐gyhuddwyr[Mat 26:57–68; Luc 22:66–71]53A hwy a arweiniasant ymaith yr Iesu at yr Arch‐offeiriad; a'r holl Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion ydynt yn dyfod ynghyd ato ef.
54A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd tu fewn i Lŷs yr Arch‐offeiriad: ac yr oedd efe yn cyd eistedd gyda'r is‐swyddogion; ac yn ymdwymno wrth oleu y tân.
55A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor oeddynt yn ceisio tystiolaeth yn erbyn yr Iesu, er ei roddi i farwolaeth, ond nid oeddynt yn ei chael.
56Canys llawer a ddygasant gam‐dystiolaeth yn ei erbyn ef: ac nid oedd eu tystiolaeth hwy yn gyson.
57A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gam‐dystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd,
58Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a doraf i lawr y Cysegr hwn, o waith llaw, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.
59Ac nid oedd hyd y nod eu tystiolaeth hwy yn gyson.
60A chyfododd yr Arch‐offeiriad yn y canol, ac a ofynodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Oni atebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn dystiolaethu yn dy erbyn?
61Ond efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr Arch‐offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywed wrtho, Ai Tydi yw y Crist, Mab y Bendigedig?
62A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod gyd â chymylau y Nefoedd.
63A'r Arch‐offeiriad a rwygodd ei wisgoedd, ac a ddywed, Pa raid i ni bellach wrth dystion?
64Chwi a glywsoch y cabledd; beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant, ei fod yn euog o farwolaeth.
65A rhai a ddechreuasant boeri arno, a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r is‐swyddogion a'i derbyniasant ef i'w cadwraeth, gan ei daro.
Cwymp Petr[Mat 26:69–75; Luc 22:54–62; Ioan 18:15–18, 25–27]66a phan yr oedd Petr i lawr yn y Llŷs, y mae un o forwynion yr Arch‐offeiriad yn dyfod:
67a phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywed, A thithau oeddit gyd â y Nazarëad, sef Iesu.
68Ond efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod nac yn deall beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r rhag-gyntedd,.
69A'r forwynig a'i gwelodd drachefn, ac a ddechreuodd lefaru wrth y rhai a safent yn ymyl, Y mae hwn yn un o honynt.
70Ond efe a wadodd drachefn. Ac yn mhen ychydig, drachefn y rhai a safent yn ymyl a ddywedasant wrth Petr, Mewn gwirionedd, yr wyt ti yn un o honynt: canys hyd y nod Galilëad wyt,.
71Ond efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen y dyn hwn yr ydych yn dywedyd am dano.
72Ac yn ebrwydd y canodd y ceiliog yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A phan ystyriodd, efe a wylodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.