1Yn yr awr hono y daeth y Dysgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy ynte sydd fwyaf yn Nheyrnas Nefoedd?
2Ac efe a alwodd ato blentyn bychan, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt,
3ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr i chwi droi a dyfod fel plant bychain, nid ewch chwi o gwbl i fewn i Deyrnas Nefoedd.
4Pwy bynag, gan hyny, a ostyngo ei hun fel y plentyn bychan hwn, hwnw yw y mwyaf yn Nheyrnas Nefoedd.
5A phwy bynag a dderbynio un cyfryw blentyn bychan yn fy enw I, a'm derbyn I.
6Eithr pwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, buddiol ydyw iddo i faen mawr melin gael ei grogi am ei wddf a'i suddo yn eigion y môr.
Annogaeth i ochelyd rhwystrau.[Marc 9:42–50; Luc 17:1–3]7Gwae y byd o herwydd rhwystrau, canys angenrhaid yw i'r rhwystrau ddyfod; er hyny, gwae y dyn drwy yr hwn y mae y rhwystr yn dyfod.
8Ac os dy law neu dy droed a'th rwystra, tòr hi ymaith, a thafl oddiwrthyt: da i ti fyned i fewn i'r bywyd yn gloff neu yn anafus nag â chenyt ddwy law neu ddwy droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.
9Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt: gwell i ti yn un‐llygeidiog fyned i fewn i'r bywyd nag â dau lygad genyt dy daflu i'r Gehenna o dân.
Am beidio dirmygu rhai bychain y Deyrnas[Luc 15:1–7]10-11Edrychwch na ddirmygoch un o'r rhai bychain hyn, canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod eu hangylion hwy yn y Nefoedd bob amser yn syllu ar wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd., a myned a cheisio yr hon a grwydrasai?
13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am hono yn fwy nag am y naw deg a naw y rhai ni chrwydrasant.
14Felly, nid yw ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd, golli un o'r rhai bychain hyn.
Iawn Ddysgyblaeth[Luc 17:3, 4]15Ac os pecha dy frawd, dos, a dwg ef i gyfrif rhyngot ti ac ef ei hun; os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.
16Eithr os efe ni wrendy, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel wrth enau dau neu dri o dystion y byddo safadwy bob gair
17Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys; ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded i ti fel y Cenedlddyn neu y Trethgasglwr.
18Yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynag a rwymoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhwymo yn y Nef, a pha bethau bynag a ryddhaoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhyddhau yn y Nef.
19A thrachefn meddaf i chwi, Os cytuna dau o honoch ar y ddaear yn nghylch unrhyw fater am yr hwn y gofynant, efe a roddir iddynt oddiwrth fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd.
20Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw I, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Am faddeuant.21Yna y daeth Petr ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? hyd seithwaith?
22Yr Iesu a ddywed wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd, Hyd seithwaith, ond, Hyd ddeg‐a‐thri‐ugain seithwaith.
23Am hyny y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a fynai wneuthur cyfrif â'i weision.
24A phan ddechreuodd gyfrif, fe ddygwyd ato un oedd ddyledwr am ddeg mil o dalentau;
25a chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a'r hyn oll a feddai, a chael ei dalu.
26Y gwas, gan hyny, a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.
27Ac Arglwydd y gwas hwnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd ymaith, ac a faddeuodd iddo y ddyled.
28Eithr y gwas hwnw a aeth allan, ac a ddaeth o hyd i un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn denarion, ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl yr hyn sydd ddyledus arnat.
29A syrthiodd ei gydwas i lawr, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti.
30Eithr nis mynai efe; eithr gan fyned ymaith, efe a'i bwriodd ef i garchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.
31Gan hyny, pan welodd ei gydweision y pethau a wnaethpwyd, bu ddrwg dros ben ganddynt; a hwy a ddaethant ac a eglurasant i'w harglwydd eu hunain yr hyn oll a ddygwyddasai.
32Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywed, O was drwg! mi a faddeuais i ti yr holl ddyled hono, am i ti ymbil â mi;
33ac oni ddylesit tithau hefyd drugarhau wrth dy gydwas, megys y trugarheais inau wrthyt tithau?
34A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i traddododd ef i'r poenydwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus.
35Ac felly y gwna fy Nhad Nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i'w frawd o'ch calonau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.