1Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwyliaid, glanhâwn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2Gwnewch le i ni yn eich calonnau: ni wnaethom gam a neb; ni lygrasom neb; ni chymmerasom fantais ar neb eich bod chwi yn ein calonnau i farw ac i fyw gyda chwi.
4Y mae hyfder fy ymadrodd tuag attoch yn fawr; y mae fy ymffrost am danoch yn fawr; yr wyf yn llawn o ddyddanwch; yr wyf yn gorlifo o lawenydd yn ein holl orthrymder.
Dyfodiad Titus5Canys hyd y nod wedi dyfod o honom i Macedonia, ni chafodd ein cnawd esmwythâd, ond cystuddiwyd ni ar bob llaw; oddiallan, yr oedd ymladdau; oddimewn, ofnau.
6Eithr yr hwn sydd yn dyddanu yr isel, Duw, a'n dyddanodd ni yn nyfodiad Titus;
7ac nid yn unig yn ei ddyfodiad, ond hefyd a'r dyddanwch â'r hwn y dyddanwyd ef ynoch chwi, wrth fynegu o hono i ni eich hiraeth, eich galar, a'ch sêl ar fy rhan, fel y llawenychais yn fwy.
Eu hedifeirwch8Canys er i mi eich tristâu chwi â'm llythyr, nid yw edifar gennyf, er y bu edifar gennyf, canys yr wyf yn gweled dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er ond dros amser.
9Yn awr llawenhâu yr wyf, nid am eich tristâu chwi, eithr am eich tristâu i edifeirwch: canys tristâwyd chwi tuag at Dduw, fel na chaech golled mewn dim oddiwrthym ni;
10canys tristwch tuag at Dduw sydd yn cynnyrchu edifeirwch i iachawdwriaeth, yr hwn edifeirwch ni fyddis edifar o hono; eithr tristwch y byd a gynnyrcha angau.
11Canys wele y peth hwn ei hun, sef tristâu tuag at Dduw, y fath lwyrfrydedd a gynnyrchodd ynoch; ië, ymddiffyn; ië, sorriant; ië, ofn; ië, hiraeth; ië, sêl; ië, gospedigaeth! Ym mhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y mater.
12Felly, er ysgrifennu o honof attoch, nid oedd yn achos yr hwn a wnaethai y cam, na'r hwn a gawsai gam, eithr fel yr amlyger eich llwyrfryd calon ar ein rhan i chwi eich hunain gerbron Duw.
13O herwydd hyn y'n dyddanwyd; ac yn ein dyddanwch ni a lawenhasom fwy o lawer am lawenydd Titus, oherwydd adlonni ei yspryd ef gennych chwi oll.
14Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni'm cywilyddiwyd; eithr fel y llefarasom bob peth wrthych mewn gwirionedd, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd.
15Ac y mae ei serch ef yn helaethach tuag ag attoch, wrth gofio o hono eich ufudd‐dod chwi oll, y modd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
16Llawen wyf gan fod gennyf hyder ynoch ym mhob peth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.