1Canys Teyrnas Nefoedd sydd debyg i Feistr tŷ, yr hwn a aeth allan gyda'r wawr i gyflogi gweithwyr i'w winllan.
2Ac wedi cytuno â'r gweithwyr am ddenarion y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.
3Ac efe a aeth allan yn nghylch y drydedd awr, ac a welodd ereill yn sefyll yn y farchnadle yn segur.
4Ac wrthynt hwy y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i'r winllan, a pha beth bynag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith.
5Ac efe a aeth allan drachefn yn nghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
6Ac yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, efe a aeth allan ac a gafodd ereill yn sefyll, ac a ddywed wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
7Dywedant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywed yntau wrthynt, Ewch chwithau hefyd i'r winllan.
8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywed wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
9A phan ddaeth y rhai a gyflogasid yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, derbyniasant bob un ddenarion.
10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, a hwy hefyd a gawsant bob un y ddenarion.
11Ac wedi iddynt gael, hwy a rwgnachasant yn erbyn Meistr y tŷ,
12gan ddywedyd, Y rhai diweddaf hyn, un awr y gweithiasant, a thi a'u gwnaethost hwy yn gydradd a ninau, y rhai ydym wedi dwyn pwys y dydd, a'r gwres tanllyd.
13Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Gyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi; onid am ddenarion y cytunaist â mi?
14Cymmer i fyny yr eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn yr un modd ag i tithau.
15Ai nid rhydd i mi wneuthur yr hyn a fynwyf â'm heiddo fy hun? Neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg am fy mod I yn dda?
16Felly, y rhai olaf fyddant flaenaf, a'r blaenaf olaf o'r neilldu, ac ar y ffordd efe a ddywedodd wrthynt,
18Wele yr ydym ni yn myned i fyny i Jerusalem, a Mab y Dyn a draddodir i'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,
19ac a'i traddodant ef i'r cenedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio, a'r trydydd dydd y cyfodir ef.
Uchelgeisiaeth fydol yn mhlant y Deyrnas.[Marc 10:35–45; Luc 22:24–27]20Yna y daeth ato ef fam meibion Zebedeus gyda'i meibion, gan addoli, a deisyf rhywbeth ganddo.
21Ac Efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeheu, a'r llall ar dy law aswy, yn dy Deyrnas.
22A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y cwpan yr ydwyf fi ar ei yfed, eithr eistedd ar fy llaw ddeheu ac ar yr aswy nid eiddo fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu gan fy Nhad.
24A phan glybu y deg hwy a sorasant yn nghylch y ddau frawd.
25A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt.
26Eithr nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith chwi, a fydd yn weinidog i chwi;
27a phwy bynag a ewyllysio fod yn flaenaf, efe a fydd yn was i chwi.
28Megys na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Y ddau ddeillion a Mab Dafydd.[Marc 10:46–52; Luc 18:35–43]29Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.
30Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd.
31A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent; hwythau a lefasant fwy‐fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd.
32A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, gan ddywedyd, Pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi?
33Dywedant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34A'r Iesu a dosturiodd ac a gyffyrddodd â'u llygaid hwynt, ac yn ebrwydd hwy a gawsant eu golwg, a hwy a'i canlynasant ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.