Actau 14 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Apostolion yn pregethu a'r dysgyblion yn cael eu herlid yn Iconium, 1–7

1A dygwyddodd yn Iconium iddynt fyned yr un pryd i Synagog yr Iuddewon, a llefaru yn y fath fodd fel y credodd lliaws mawr o'r Iuddewon ac o'r Groegiaid.

2Ond yr Iuddewon nad ufyddasant a gyffroisant ac a gynhyrfasant i ddrwg eneidiau y Cenhedloedd yn erbyn y Brodyr.

3Am hyny, yn wir, hwy a dreuliasant yno amser hir, gan lefaru yn hyf yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn tystiolaethu i Air ei Ras, gan genhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylaw hwynt.

4A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda yr Iuddewon, a rhai oedd gyda yr Apostolion.

5A phan wnaethpwyd rhuthr o'r Cenhedloedd ac o'r Iuddewon ynghyd a'u llywodraethwyr i'w sarhau a'u llabyddio,

6a hwy yn ymwybodol o hyn, ffoisant i ddinasoedd Lycaonia, sef Lystra a Derbe, a'r wlad oddi amgylch:

7ac yno y buont yn efengylu.

Gwellhâd y cloff: gwneuthur duwiau o'r Apostolion, 8–18

8A rhyw wr yn Lystra, yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, yn gloff o groth ei fam, yr hwn ni cherddodd erioed.

9Hwn a glywodd Paul yn llefaru: yr hwn, gan edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i'w iachau,

10a ddywedodd a llais uchel, Saf i fyny ar dy draed yn syth. Ac efe a neidiodd i fyny ac a ddechreuodd rodio.

11A'r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu llais, yn iaith Lycaonia, gan ddywedyd, Y mae y duwiau yn nghyffelybiaeth dynion wedi disgyn atom ni.

12A galwasant Barnabas Jupiter, a Paul Mercurius, gan mai efe oedd yr arweinydd mewn ymadrodd.

13Ac offeiriad Jupiter, teml

yr hwn oedd o flaen y ddinas, a ddyg deirw a dail‐blethau hyd at y pyrth, ac a fynasai gyda'r torfeydd aberthu.

14Ond yr Apostolion, Barnabas a Paul, pan glywsant, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant allan i blith y dyrfa, gan waeddi a dywedyd,

15O wyr, paham y gwnewch y pethau hyn? ninau hefyd ydym o gyffelyb naturiaeth a chwithau, yn ddynion, gan bregethu ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion hyn at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:

16yr hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a oddefodd i'r holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.

17Er hyny, ni adawodd efe ei hun yn ddidyst, gan wneuthur daioni, gan roddi i chwi wlawogydd a thymhorau ffrwythlawn, gan lenwi eich calonau â lluniaeth a llawenydd.

18A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt.

Y dyrfa wamal: llabyddio Paul: y dychweliad i Antioch, 19–28

19Ond daeth Iuddewon o Antioch ac Iconium; ac wedi darbwyllo y torfeydd a llabyddio Paul, hwy a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.

20A'r dysgyblion yn ei amgylchynu, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thranoeth efe a aeth allan gyda Barnabas i Derbe.

21A chan efengylu i'r ddinas hono, a gwneuthur dysgyblion lawer, dychwelasant i Lystra ac i Iconium ac i Antioch,

22gan gadarnhau eneidiau y dysgyblion, gan eu cynghori i aros yn y ffydd, a dywedyd, Trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i Deyrnas Dduw.

23Ac wedi penodi iddynt henuriaid yn mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghyd ag ymprydiau, hwy a'u cyflwynasant hwy i'r Arglwydd yn yr hwn yr oeddent wedi credu.

24A hwy a dramwyasant trwy Pisidia, ac a ddaethant i Pamphylia.

25Ac wedi llefaru y Gair yn Perga hwy a aethant i waered i Attalia.

26Ac oddiyno hwy a fordwyasant i Antioch, o'r lle yr oeddent wedi eu cymeradwyo i ras Duw ar gyfer y gwaith a gyflawnasant.

27Ac wedi iddynt gyrhaedd, a chasglu yr Eglwys ynghyd, hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.

28A hwy a dreuliasant amser nid ychydig gyda'r dysgyblion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help