1Os llefaraf â thafodau dynion ac angelion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio neu symbal yn clincian.
2Ac os oes gennyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll a phob gwybodaeth; ac os oes gennyf yr holl ffydd fel ag i symmud mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.
3A phe porthwn y tlodion â'm holl dda, ac os rhoddaf i fyny fy nghorph fel y'm llosger, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim lleshâd i mi.
4Y mae cariad yn hir‐ymaros, yn gymmwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; cariad nid yw yn dangos ei hun, nid yw yn ymchwyddo,
5nid yw yn ymddwyn yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, nid yw yn gwneyd cyfrif o'r drwg;
6ni lawenycha mewn annghyfiawnder, ond cyd‐lawenycha â'r gwirionedd.
7Y mae yn goddef pob peth, yn credu pob peth, yn gobeithio pob peth, yn dal yn wrol dan bob peth.
8Cariad byth ni chwymp: eithr pa un bynnag ai prophwydoliaethau, hwy a ddiddymmir; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiddymmir;
9canys o ran y gwyddom, ac o ran y prophwydwn;
10eithr pan fyddo'r perffaith wedi dyfod, yr hyn sydd o ran a ddiddymmir.
11Pan oeddwn faban, fel baban y llefarwn, fel baban y syniwn, fel baban yr ymresymmwn; ond pan ddaethum yn ddyn, diddymmais bethau baban.
12Canys gweled yr ydym yn awr trwy ddrych, mewn ffurf aneglur; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr wyf yn adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf fel y'm hadnabuwyd.
13Ac yn awr y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.