1Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau attoch i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi y mae yn ddyogel.
2Gochelwch y cwn; gochelwch y drwg‐weithredwyr; gochelwch y Cyd‐doriad;
3canys yr Enwaediad ydym ni, y rhai ydym, trwy Yspryd Duw, yn gwasanaethu ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd:
4er y gallwn i fy hun ymddiried hyd y nod yn y cnawd. Os yw neb arall yn meddwl ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:
5wedi ymwaedu arnaf yr wythfed dydd; o genedl Israel; o lwyth Benjamin; Hebrewr o Hebreaid; yn ol y Ddeddf, yn Pharisead:
6yn ol sêl, yn erlid yr eglwys; yn ol y cyfiawnder sydd yn y Ddeddf, yn ddiargyhoedd.
7Eithr y fath bethau oeddynt elwau i mi, yr wyf wedi cyfrif y rhai hynny yn golled er mwyn Crist.
8Ië, yn wir, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr hwn y'm colledwyd o bob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn ysgubion, fel yr ennillwyf Grist,
9ac y'm caffer ynddo ef, heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r Ddeddf, eithr yr hwn sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar ammod ffydd;
10mewn trefn i'w adnabod ef, a gallu ei Adgyfodiad, a chymdeithas ei ddyoddefiadau, gan gael fy nghyd-ffurfio i'w farwolaeth ef,
11os mewn un modd y cyrhaeddaf i Adgyfodiad oddiwrth y meirw.
Cynnydd, nid perffeithrwydd.12Nid fy mod eisoes wedi derbyn y wobr, neu eisoes wedi fy mherffeithio, ond dylyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof gan Grist.
13Frodyr, nid wyf yn cyfrif ddarfod i mi fy hun etto gael gafael; ond gwnaf un peth: gan anghofio y pethau sydd o'r tu cefn, a chan ymestyn at y pethau sydd o'r tu blaen,
14yr wyf yn cyrchu at y nôd, at y gamp o uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.
15Cynnifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn; ac os ydych yn synied dim yn wahanol, hyn hefyd a ddadguddia Duw i chwi.
16Yn unig, yr hyn yr ydym wedi cyrhaedd atto, rhodiwn wrtho.
17Byddwch gyd‐efelychwyr o honof fi, frodyr, a gwyliwch y rhai sydd yn rhodio felly, megys yr ydym ni yn esiampl i chwi;
18canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais wrthych yn fynych, ac yn awr dan wylo yr wyf yn dywedyd,
19mai gelynion Croes Crist ydynt, diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai a syniant bethau daearol.
20Canys ein dinasyddiaeth ni sydd o'r dechreu yn y nefoedd, o'r lle hefyd y dysgwyliwn Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist,
21yr hwn a ddull‐newidia gorph ein darostyngiad i fod yn un‐ffurf â chorph ei ogoniant ef, yn ol gweithrediad ei allu hyd y nod i ddarostwng pob peth iddo ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.