Colossiaid 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

1Y meistriaid, rhoddwch gyfiawnder a chyfartalwch i'ch gweision, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.

Gweddi ac ymarweddiad.

2Glynwch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;

3gan weddio yr un pryd hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agoryd i ni ddrws y Gair, i lefaru dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd yn rhwym,

4fel yr amlygwyf ef, fel y dylwn lefaru.

5Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynnu yr amser.

6Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwyppoch fel y dylech atteb i bob dyn.

Gwasanaeth a chyfarchiadau ei gyfeillion.

7Fy holl helynt a hyspysa Tychicus i chwi, y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddlawn a'r cyd‐was yn yr Arglwydd,

8yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn yma, fel y gwyppech ein helynt, ac fel y dyddanai eich calonnau chwi;

9gydag Onesimus, y ffyddlawn a'r anwyl frawd, yr hwn sydd un o honoch chwi. Hwy a hyspysant i chwi yr holl bethau yma.

10Eich annerch y mae Aristarchus fy nghyd‐garcharor, a Marc, cefnder Barnabas, (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion: os daw attoch, derbyniwch ef),

11a Jesus, yr hwn a elwir Justus, y rhai ydynt o'r Enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i Deyrnas Dduw, yn gyfryw ag a fuant yn gysur i mi.

12Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd un o honoch, gwas Crist Iesu, gan fod mewn ymdrech meddwl yn wastadol drosoch yn ei weddiau, ar sefyll o honoch yn berffaith ac yn gwbl‐sicr yn holl ewyllys Duw;

13canys yr wyf yn dyst iddo, fod iddo lafur mawr ar eich rhan chwi, a'r rhai yn Laodicea, a'r rhai yn Hierapolis.

15Annerchwch y rhai sydd yn Laodicea, a Nymphas a'r eglwys sydd yn eu tŷ.

16Ac wedi darllen y llythyr hwn yn eich plith, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid, a darllen o honoch chwithau hefyd yr un o Laodicea.

17A dywedwch wrth Archippus: Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawnu.

18Yr annerch â'm llaw i Paul. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help