Ioan 13 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Darlun o gariad, a gwers mewn gostyngeiddrwydd.

1A chyn Gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei Awr ef fel y symudai allan o'r byd hwn at y Tâd, wedi caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u carodd hwynt i'r eithaf: ac ar adeg swper,

2wedi i'r Diafol eisioes roi yn nghalon Judas, mab Simon, yr Iscariot, i'w fradychu ef;

3efe, yn gwybod roddi o'r Tâd bob peth yn ei ddwylaw ef, a dyfod o hono allan oddi wrth Dduw, a'i fod yn myned ymaith at Dduw,

4sydd yn codi oddi wrth y swper, ac a rydd heibio ei ar‐wisgoedd, ac a gymmerodd dywel, ac a ymwregysodd:

5yna y mae yn tywallt dwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y Dysgyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.

Ymddadliad Petr a bradwriaeth Judas.

6Y mae efe yn dyfod gan hyny at Simon Petr. Y mae efe yn dywedyd wrtho, Arglwydd, a wyt ti yn golchi fy nhraed i?

7Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon, ond ti a ddeui i wybod ar ol y pethau hyn.

8Petr a ddywed wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i o gwbl yn dragywydd. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi.

9Simon Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, ond hefyd fy nwylaw a'm pen.

10Dywed yr Iesu wrtho, Yr hwn sydd wedi ymdrochi, nid rhaid iddo olchi ond ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.

11Canys efe a adwaenai yr hwn oedd yn ei fradychu ef: am hyny y dywedodd efe, Nid ydych chwi oll yn lân.

Yr Athraw a'r Dysgybl.

12Gan hyny wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei ar‐wisgoedd, ac eistedd drachefn wrth y bwrdd, efe a ddywedodd wrthynt, A ydych yn gwybod pa beth yr wyf wedi ei wneuthur i chwi?

13Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athraw, ac, Yr Arglwydd; a da y dywedwch: canys y cyfryw wyf fi.

14Os myfi gan hyny, yr Arglwydd a'r Athraw, a olchais eich traed chwi, chwithau hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd:

15canys esiampl a roddais i chwi, fel megys y gwneuthum i i chwi y gwnewch chwithau hefyd.

16Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, nid yw gwas yn fwy na'i arglwydd, nac un a ddanfonir yn fwy na'r hwn a'i danfonodd.

17Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.

Y Bradychiad[Mat 26:20–25; Marc 14:17–21; Luc 22:21–23]

18Nid wyf yn llefaru am danoch oll: mi a wn pwy rai a etholais: a hyn a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, —

Yr hwn sydd yn bwyta fy mara

A gododd ei sawdl yn fy erbyn i.

19O'r pryd hwn yr wyf yn dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch, pan y daw, mai myfi yw efe.

20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn neb a ddanfonwyf, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

21A'r Iesu yn dywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i.

22Yr oedd y Dysgyblion yn edrych ar eu gilydd, gan fod mewn dyryswch am bwy y mae yn llefaru.

23Yr oedd yn lledorwedd wrth y bwrdd yn mynwes yr Iesu un o'i Ddysgyblion, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.

24Y mae Simon Petr gan hyny yn amneidio ar hwnw, ac yn dywedyd wrtho, Dywed pwy yw efe am yr hwn y mae yn llefaru.

25Ac efe, gan bwyso yn ol fel yr oedd ar ddwyfron yr Iesu, a ddywed wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?

26Yr Iesu gan hyny a etyb, Hwnw yw efe, i'r hwn y gwlychaf y tamaid, ac y rhoddaf ef iddo. Gan hyny wedi gwlychu y tamaid, y mae efe yn ei gymmeryd ac yn ei roddi i Judas, mab Simon Iscariot.

27Ac ar ol y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo ef. Dywed gan hyny yr Iesu wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna yn fwy brysiog.

28A hyn ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, i ba ddyben y dywedasai efe wrtho:

29canys yr oedd rhai yn tybied, am fod Judas a'r göd ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryn y pethau sydd arnom eu heisieu erbyn yr Wyl; neu, fel y rhoddai rywbeth i'r tlodion gan hyny wedi derbyn y tamaid a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos.

Gogoneddiad y Mab, a gorchymyn newydd i'r Plant.

31Pan gan hyny yr aeth efe allan, dywed Iesu, Yn awr y gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.

32A Duw a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac a'i gogonedda ef yn ebrwydd.

33Blant bychain, eto yr wyf enyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac megys y dywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, nis gellwch chwi ddyfod, yr wyf yn dywedyd i chwithau hefyd yr awrhon.

34Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eich gilydd: y modd y cerais i chwi, bod i chwithau hefyd garu eich gilydd.

35Yn hyn y gwybydd pawb mai Dysgyblion i mi ydych, os bydd genych gariad yn mhlith eich gilydd.

36Dywed Simon Petr wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt yn myned ymaith? Iesu a atebodd, Lle yr ydwyf fi yn myned ymaith, ni elli di yn awr fy nghanlyn; eithr ti a ganlyni ar ol hyn.

37Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, Paham nad allaf fi dy ganlyn di yr awrhon? mi a roddaf fy einioes drosof.

38Y mae Iesu yn ateb, Dy einioes a roddi drosof? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, ni chân ceiliog ddim, nes i ti fy ngwadu dair gwaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help