Actau 26 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ymddiffyniad Paul o flaen Agrippa a Ffestus.

1Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniateir i ti lefaru am danat dy hun. Yna Paul, gan estyn ei law, a wnaeth ymddiffyniad:

2Am yr holl bethau o'r rhai y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin Agrippa, tybiwyf fy hun yn ddedwydd pan ar fedr gwneyd ymddiffyniad ger dy fron di heddyw;

3yn enwedig gan dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau ac hefyd a'r cwestiynau sydd yn mhlith yr Iuddewon; o herwydd paham yr wyf yn deisyf arnat fy ngwrando yn amyneddgar.

4Fy muchedd yn wir gan hyny o'm mebyd, yr hon fu o'r dechreuad yn mhlith fy nghenedl ac yn Jerusalem, a wyr yr holl Iuddewon,

5gan fy adwaen o'r blaen o'r cychwyn, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y blaid fanylaf o'n Crefydd y bu'm fyw yn Pharisead.

6Ac yn awr am obaith yr Addewid a wnaed i'n Tadau gan Dduw yr wyf yn sefyll i'm barnu;

7i'r hon Addewid y mae ein Deuddeg‐Llwyth, gan wasanaethu Duw mewn dyfalwch nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am y gobaith hwn y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin.

8Paham y bernir yn anghredadwy yn eich plith chwi os yw Duw yn cyfodi y meirw?

9Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun y dylaswn wneuthur llawer o bethau yn wrthwynebol i Enw Iesu y Nazarëad.

10Yr hyn hefyd a wnaethum yn Jerusalem: a llawer o'r Saint hefyd a gauais i i fyny mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch‐offeiriaid; a phan yn cael eu rhoddi i farwolaeth, mi a roddais bleidlais yn eu herbyn.

11A thrwy yr holl Synagogau yn fynych yr oeddwn yn eu cospi, ac yn eu gorfodi i gablu; a chan fod yn ynfyd dros ben yn eu herbyn, yr oeddwn yn eu herlid hyd y nod i ddinasoedd tu allan i'n gwlad.

12A thra wrth y pethau hyn, a myfi yn myned i Damascus gydag awdurdod a chommissiwn yr Arch‐offeiriaid,

13ar ganol dydd yn y ffordd y gwelais, O Frenhin, Oleuni o'r Nef, tu hwnt i ddysglaerdeb yr haul, yn dysglaerio o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn myned gyda mi.

14A phan yr oeddem oll wedi syrthio ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn y briod‐iaith Hebraeg, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled i ti wingo yn erbyn y symbylau.

15A minau a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16Eithr cyfod i fyny, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod yn wâs ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;

17gan dy wared oddiwrth y Bobl ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy anfon di,

18i agoryd eu llygaid, fel y troant o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mhlith y rhai Sancteiddiedig, trwy ffydd yr hon sydd ynof Fi.

19O ganlyniad, ni fu'm anufydd i'r weledigaeth nefol:

20eithr i'r rhai yn Damascus yn gyntaf, a Jerusalem, a thrwy holl wlad Judea, ac i'r Cenhedloedd y traethais y dylent edifarhâu a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch.

21O achos y pethau hyn, Iuddewon a'm daliasant yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd.

22Am hyny, wedi cael y cymhorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll, gan dystiolaethu i fach a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na'r pethau a ddywedasai y Prophwydi a Moses fel ar fedr dyfod i ben:

23fod y Crist i ddyoddef, trwy Adgyfodiad y Meirw, i gyhoeddi goleuni i'r Bobl ac i'r Cenhedloedd hefyd.

Ffestus yn syrthio yn fyr mewn barn, ac Agrippa mewn crefydd.

24Ac fel yr oedd efe yn y modd hyn yn ymddiffyn ei hun, Ffestus a ddywed a llef uchel, Anmhwyllo ydwyt, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy droi i anmhwylledd.

25Ond Paul a ddywed, Nid wyf yn anmhwyllo, Ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu llefaru allan.

26Canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd yr wyf yn llefaru yn hyf: canys yr wyf yn argyhoeddedig nad oes dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; canys nid mewn congl y gwnaed hyn.

27A ydwyt yn credu, O Frenhin Agrippa, y Prophwydi? Gwn dy fod yn credu.

28Ac Agrippa a

ddywedodd wrth Paul, Gydag ychydig ti a fynit fy narbwyllo fel i'm gwneuthur i yn Gristion!

29Eithr Paul a ddywed

, Mi a ddymunwn gan Dduw, pa un bynag ai gydag ychydig neu gyda llawer, ddyfod nid yn unig tydi, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, ond y rhwymau hyn.

30A chyfododd y Brenhin, a'r Rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:

31ac wedi ymneillduo, llefarasent wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau neu rwymau.

32Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yn rhydd, pe na fuasai iddo apelio at Cesar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help