Dadguddiad Ioan 16 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Saith Bla.

1A chlywais lef uchel o'r Cysegr yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan saith phiol llid Duw i'r ddaear.

2A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd allan ei phiol i'r ddaear; ac aeth yn gornwyd drwg a blin ar y dynion a chanddynt nod yr Anghenfil, a'r rhai a addolent ei ddelw ef.

3A'r ail a dywalltodd allan ei phiol i'r môr; ac efe a aeth yn waed megys gwaed un marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y rhai yn y môr.

4A'r trydydd a dywalltodd allan ei phiol i'r afonydd a'r ffynhonnau dyfroedd; ac aethant yn waed.

5A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, tydi yr Un Sanctaidd, oblegyd barnu o honot y pethau hyn;

6canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; y maent yn deilwng.

7A chlywais yr Allor yn dywedyd, Ië, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnau di.

8A'r pedwerydd a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân.

9A phoethwyd dynion â phoethder mawr; a hwy a gablasant Enw Duw, yr hwn sydd âg awdurdod ganddo ar y Pläau hyn, ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef.

10A'r pumed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd yr Anghenfil, a'i deyrnas ef a dywyllwyd; a chnoisant eu tafodau gan y boen;

11a chablasant Dduw y nef o herwydd eu poenau ac o herwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd.

12A'r chweched a dywalltodd ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr, fel y parotôid ffordd y brenhinoedd o gyfodiad haul.

13A gwelais yn dyfod allan o safn y Ddraig, ac o safn yr Anghenfil, ac o enau y Gau‐Brophwyd, dri yspryd aflan fel llyffaint.

14Canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion; y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear oll, i'w casglu hwynt ynghyd i ryfel Dydd Mawr Duw, yr Hollalluog;

15(Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na byddo yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef).

16Ac efe a'u casglodd hwy ynghyd i le a elwir yn Hebraeg Har‐magedon.

17A'r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o'r Cysegr, o'r Orsedd, yn dywedyd, Darfu,

18a bu mellt, a lleisiau, a tharanau; a bu daeargryn mawr, y fath ni bu er pan oedd dynion ar y ddaear, gymaint daear‐gryn, mor fawr!

19A rhannwyd y Ddinas Fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant; a Babylon Fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef.

20A phob ynys a ffôdd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd,

21a chenllysg mawr, o ddeutu pwys talent yr un, sydd yn disgyn o'r nef ar ddynion; a'r dynion a gablasant Dduw o herwydd pla y cenllysg; canys aruthrol fawr yw eu pla hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help