2 Corinthiaid 11 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cymhellion Paul i'w waith, a'i amddiffyniad.

1O na chyd‐ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb! na, yn wir, yr ydych yn cyd‐ddwyn â mi;

2canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun; canys mi a'ch dyweddiais chwi i un gwr, i'ch cyflwyno fel morwyn bur i Grist.

3Ond ofni yr wyf rhag mewn un modd, fel y twyllodd y sarph Efa yn ei chyfrwystra, y cä eich meddyliau chwi eu llygru oddiwrth y symlrwydd a'r purdeb sydd tuag at Grist.

4Canys yn wir os yw yr hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn yspryd gwahanol, yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl wahanol, yr hon ni dderbyniasoch, yr ydych yn dal yn rhagorol!

5Canys yr wyf yn cyfrif nad wyf mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol!

6Ac os ydwyf hefyd yn annghelfydd mewn ymadrodd, nid wyf felly mewn gwybodaeth; na, ym mhob peth gwnaethom hyn yn amlwg ym mhlith pawb tuag attoch.

7Neu a gyflawnais i bechod wrth fy ngostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, oblegyd pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rhad?

8Eglwysi eraill a yspeiliais, gan gymmeryd cyflog ganddynt hwy er y weinidogaeth i chwi;

9a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisieu, ni bum yn faich i neb, canys y brodyr, pan ddaethant o Macedonia, a gyflawnasant fesur fy eisieu, ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac a ymgadwaf.

10Fel y mae gwirionedd Crist ynof, ni ddystewir fy ymffrost hwn ym mharthau Achaia.

11Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a ŵyr.

12Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf, fel y torrwyf ymaith achlysur oddiwrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y ceir hwynt fel ninnau hefyd.

13Canys y cyfryw rai ydynt au‐apostolion, gweithwyr twyllodrus, yn trawsffurfio eu hunain yn Apostolion Crist.

14Ac nid rhyfedd! canys y mae Satan yntau ei hun yn ymrithio yn angel goleuni.

15Am hynny nid yw yn beth mawr os ei weinidogion ef hefyd a ymrithiant fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ol eu gweithredoedd.

Peryglon a gorthrymderau yr Apostol.

16Trachefn dywedaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol; ond os gwnewch, etto derbyniwch fi fel ffol, fel yr ymffrostiwyf finnau hefyd ychydig.

17Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megys mewn ffolineb, yn yr hyder hwn o ymffrost.

18Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.

19Canys yr ydych yn goddef y ffyliaid yn llawen, gan eich bod eich hunain yn ddoethion.

20Canys goddefwch ef, os rhyw un a'ch caethiwo, os rhyw un a'ch magla, os rhyw un a ymddyrchafa, os rhyw un a'ch tery ar y wyneb.

21Er ein gwaradwydd yr wyf yn llefaru, megys pe buasem yn weiniaid. Etto ym mha beth bynnag y mae neb yn hŷf (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd), yr wyf finnau hefyd yn hŷf.

22Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau. Ai hâd Abraham ydynt hwy? felly finnau.

23Ai gweinidogion Crist ydynt? (yr wyf yn llefaru fel un o'i bwyll,) mwy wyf fi: mewn llafur yn helaethach; mewn carcharau yn amlach; mewn gwialennodiau tu hwnt i fesur; mewn marwolaethau yn fynych;

24gan yr Iuddewon bum' waith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un;

25tair gwaith y'm curwyd â gwiail, unwaith y'm llabyddiwyd; tair gwaith y dyoddefais longddrylliad; noswaith a diwrnod a dreuliais yn y dyfnfor;

26mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd; ym mheryglon yspeilwyr; ym mheryglon oddiwrth fy nghenedl; ym mheryglon oddiwrth y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon yn y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau;

27mewn llafur a lludded; mewn gwyliadwriaethau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.

28Heblaw y pethau a adewir allan, y mae yr hyn sydd yn gwasgu arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi.

29Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a wneir i dramgwyddo, nad wyf finnau yn llosgi?

30Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf yn y pethau a berthyn i'm gwendid.

31Duw a Thâd yr Arglwydd Iesu, yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.

32Yn Damascus, y llywydd dan Aretas y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid er fy nal;

33a thrwy ffenestr11:33 Gweler Act 20:9; Jos 2:15; 1 Sam 19:12. y'm gollyngwyd i lawr mewn basged ar hyd y mur, a diengais o'i ddwylaw ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help