1 Ioan 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Gair Tragwyddol a'r Iesu Hanesyddol.

1Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a syllasom arno ac a deimlodd ein dwylaw ynghylch Gair y Bywyd:

2(A'r Bywyd a amlygwyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu ac yn mynegi i chwi y Bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tâd ac a amlygwyd i ni):

3yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym hefyd yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni; ië, a'n cymdeithas ni sydd gyda'r Tâd a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.

4A'r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.

Natur Duw a pherthynas dyn âg ef.

5A hon ydyw y genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei dadgan i chwi: Duw, Goleuni ydyw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch.

6Os dywedwn fod i ni gymdeithas âg ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd.

7Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megys y mae efe yn y goleuni y mae i ni gymdeithas â'n gilydd, a gwaed Iesu ei Fab ef sydd yn ein glanhâu ni oddiwrth bob pechod.

8Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn arwain ein hunain ar gyfeiliorn, a'r gwirionedd nid yw ynom.

9Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau, ac i'n glanhâu oddiwrth bob anghyfiawnder.

10Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help