Luc 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Cofrestriad dan Cesar.

1A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan ddeddf oddiwrth Cesar Augustus, i wneyd cofrestriad o'r holl fyd trigianol.

2Hwn oedd y cofrestriad cyntaf, pan yr oedd Quirinus yn Llywodraethwr Syria.

3A phawb a aethant i gofrestru eu hunain, bob un i'w ddinas ei hun.

4A Joseph hefyd a aeth i fyny o Galilea, allan o ddinas Nazareth, i Judea, i Ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a theulu Dafydd,

5i gofrestru ei hun gyd â Mair, yr hon oedd wedi ei dyweddio iddo, yr hon oedd yn feichiog.

6A bu, tra yr oeddynt hwy yno, cyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor.

7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd mewn dillad magu, ac a'i gosododd i lawr mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn yr Orphwysfan.

Cenadwri yr Angelion.

8Ac yr oedd yn y wlâd hono fugeiliaid yn trigo allan yn y maes, yn cadw gwyliadwriaeth drwy y nos ar eu praidd.

9Ac Angel yr Arglwydd a safodd yn sydyn gerllaw, a Gogoniant yr Arglwydd a ddysgleiriodd o amgylch iddynt: ac ofnasant gyd âg ofn mawr.

10A dywedodd yr Angel wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:

11canys ganwyd i chwi heddyw, yn Ninas Dafydd,

IACHAWDWR, yr hwn yw CRIST YR ARGLWYDD.

12A hyn fydd yr arwydd i chwi: Chwi a gewch faban wedi ei rwymo â dillad plentyn, ac yn gorwedd mewn preseb.

13Ac yn ddisymwth fe ddaeth gyd â'r Angel luaws o Lu Nefol, yn molianu Duw, ac yn dywedyd,

14Gogoniant yn y goruchafion i Dduw,

Ac ar y ddaear tangnefedd yn mhlith dynion o ewyllys da.

15A bu, pan aeth ymaith yr Angelion oddiwrthynt i'r Nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.

16A hwy a ddaethant ar frys, ac a ddarganfyddasant Mair a Joseph, a'r baban yn gorwedd yn y preseb.

17A phan welsant, hwy a wnaethant yn hysbys ynghylch y gair a lefarwyd wrthynt am y plentyn hwn.

18A phawb a'r a'u clywsant a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt.

19Ond Mair a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn, gan eu pwyso yn ei chalon.

20A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a molianu Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, fel y llefarwyd wrthynt.

Enwaedu ac enwi yr Iesu.

21A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i'w enwaedu ef, hefyd galwyd ei enw ef IESU, yr hyn y galwyd ef gan yr Angel, cyn y beichiogwyd arno yn y grôth.

Ei gyflwyniad yn y Deml.

22A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth hwy, yn ol Cyfraith Moses, hwy a'i dygasant ef i fyny i Jerusalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd,

23(fel y mae yn ysgrifenedig yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pob gwrryw cyntaf‐anedig a elwir yn Sanctaidd i'r Arglwydd, Ex 13:2, 12, 13),

24ac i roddi aberth yn ol yr hyn sydd wedi ei ddywedyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pâr o ddurturod, neu ddau gyw colomen.

Molawd Simeon.

25Ac wele, yr oedd gwr yn Jerusalem, a'i enw Simeon; a'r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn dysgwyl am Ddiddanwch yr Israel; a'r Yspryd Glân oedd arno.

26Ac yr oedd wedi ei ddadguddio iddo gan yr Yspryd Glân, na welai farwolaeth cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.

27Ac efe a ddaeth yn yr Yspryd i'r Deml, a phan yr oedd rhieni y plentyn Iesu yn ei ddwyn i'r Deml, fel y gwnelent yn ol arferiad y Gyfraith mewn perthynas iddo,

28efe ei hun hefyd a'i derbyniodd ef i'w freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,

29Yn awr y gollyngi dy was, O Feistr,

Yn ol dy air, mewn tangnefedd:

30Canys gwelodd fy llygaid dy Iachawdwriaeth,

31Yr hon a barotoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd:—

32Goleuni i fod yn Ddadguddiad i'r Cenedloedd,

Ac yn Ogoniant i'th Bobl Israel.

33A'i Dâd a'i Fam oeddynt yn rhyfeddu am y pethau a lefarwyd am dano.

34A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei Fam ef, Wele, hwn sydd yn cael ei osod i fod er cwymp ac er cyfodiad i lawer yn yr Israel, ac i fod er arwydd yr hwn y mae dywedyd yn ei erbyn:

35(ac hefyd drwy dy enaid dy hun yr â cleddyf) fel y byddo i feddyliau allan o lawer o galonau gael eu dadguddio.

Anna y Broffwydes.

36Ac yr oedd Anna, Proffwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedranus iawn, ac a fu byw gyd â gwr saith mlynedd o'i morwyndod,

37a hi yn weddw hyd ei bod yn bedair a phedwar ugain mlwydd oed, yr hon nid ymadawodd o'r Deml, gan wasanaethu Duw mewn ymprydiau a deisyfiadau ddydd a nos.

38A hi gan ddyfod i fyny yr awr neillduol hono, a dalodd ddiolch i Dduw, ac a lefarodd am dano wrth bawb oedd yn dysgwyl Prynedigaeth Jerusalem.

Bachgendod Crist.

39Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w Dinas eu hun, Nazareth.

40A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâodd, wedi ei lanw â doethineb, a gras Duw oedd arno ef.

Ei ymweliad â Jerusalem a'r Deml.

41A'i rieni ef a arferent fyned bob blwyddyn i Jerusalem ar Wyl y Pasc.

42A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, a hwynt‐hwy yn myned i fyny yn ol arferiad yr Wyl,

43ac wedi gorphen y dyddiau, pan yr oeddynt yn dychwelyd, y bachgen Iesu a arosodd ar ol yn Jerusalem; a'i rieni nis gwyddent.

44Eithr gan dybied ei fod ef yn mysg eu cymdeithion, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef yn ddyfal yn mhlith eu perthynasau a'u cydnabod.

45Ac heb ei gael, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio yn ddyfal.

46A bu, ar ol tridiau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd yn nghanol y Dysgawdwyr, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47A'r rhai oll a'i clywsant ef a synasant at ei ddeall a'i atebion.

48A phan welsant ef, hwy a darawyd â syndod. A dywedodd ei Fam wrtho, Fy mhlentyn, Paham y gwnaethost fel hyn a ni? Wele, dy Dâd a minau, yn ofidus iawn, fuom yn dy geisio di.

49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? Oni wybuech fod yn rhaid i mi fod yn Nhy

fy Nhad?

50A hwy ni ddeallasant y gair a lefarodd efe wrthynt.

51Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ufydd iddynt. A'i fam ef a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn yn ei chalon.

52A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth2:52 Golyga, Hêlikia, oedran (Luc 12:25; Ioan 9:21; Heb 11:11; ac, fel rheol, yn yr awduron clasurol); corffolaeth 19:3; Eph 4:13, ac mewn ffafr gyd â Duw a dynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help