Hebreaid 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Duw o'r diwedd yn llefaru yng Nghrist.

1Duw, wedi iddo lefaru mewn amrywiol rannau ac mewn amrywiol ddulliau er cynt wrth y Tadau yn y Prophwydi

2yn niwedd y dyddiau hyn a lefarodd wrthym ni mewn Mab, yr hwn a benododd efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe yr oesau;

3yr hwn, ac efe yn lewyrchiad ei ogoniant ef, ac yn argraph ei sylwedd ef, ac yn cynnal ymlaen yr oll â gair ei allu, wedi iddo effeithio puredigaeth pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch‐leoedd;

4wedi myned yn gymaint gwell na'r angelion, o gymaint ag yr etifeddodd Enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.

Rhagoriaeth Crist ar yr angelion: Tystiolaeth yr Ysgrythyr.

5Canys wrth bwy o'r angelion y dywedodd efe erioed,

Fy Mab ydwyt Ti,

Myfi heddyw a'th genhedlais?.

A thrachefn,

Myfi a fyddaf iddo ef yn Dâd,

Ac efe a fydd i mi yn Fab.

6A phan fydd wedi dwyn drachefn y Cyntaf‐anedig i'r byd preswyliedig, dywed, Ac addoled holl angelion Duw ef

7Ac am yr angelion dywed,

Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angelion yn wyntoedd,

a'i weinidogion yn fflam dân;

8Ond am y Mab:

Dy orseddfaingc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd.

A Theyrn‐wialen uniondeb yw teyrn‐wialen dy Deyrnas di;

9Ceraist gyfiawnder, a chasëaist anghyfraith: Am hyn yr eneiniodd Duw, dy Dduw, dydi ag olew gorfoledd, tu hwnt i'th gymdeithion.

10Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd.

11Hwy a ddinystrir, ond tydi wyt yn parhau yn ddigyfnewid

; A hwynt‐hwy oll fel gwisg a heneiddiant;

12Ac megys mantell y plygi di hwynt,

Fel gwisg, a hwy a newidir;

Ond tydi, yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant

13Ond am ba un o'r angelion y dywedodd efe erioed,

Eistedd ar fy neheulaw,

Hyd oni osodaf dy elynion yn droed‐faingc i'th draed?

14Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, yn cael eu danfon i wasanaethu, er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help