Dadguddiad Ioan 19 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Haleliwia: Y Priodfab a'r Briodasferch.

1Ar ol y pethau hyn clywais megys llef uchel tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd,

Haleliwia, yr iachawdwriaeth a'r gogoniant, a'r gallu sydd yn perthyn i'n Duw ni;

2Canys gwir a chyfiawn yw ei farnau ef;

Oblegyd efe a farnodd y Butain fawr,

Yr hon a lygrodd y ddaear yn ei phuteindra,

Ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.

3Ac eilwaith y dywedasant,

Haleliwia, a'i mwg hi sydd yn esgyn yn oes oesoedd.

4A syrthiodd i lawr y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac a addolasant Dduw yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, gan ddywedyd,

Amen, Haleliwia.

5A llef a ddaeth allan o'r Orsedd, yn dywedyd,

Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef,

Y rhai ydych yn ei ofni ef, y bychain a'r mawrion.

6A chlywais fel llef tyrfa fawr, ac fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taranau cryfion, yn dywedyd,

Haleliwia, canys yr Arglwydd ein Duw ni sydd yn teyrnasu, yr Hollalluog,

7Llawenychwn a gorfoleddwn, a rhoddwn y gogoniant iddo ef;

Oblegyd daeth Priodas yr Oen, a'i Wraig a'i parotôdd ei hun.

8A rhoddwyd iddi gael ymwisgo mewn llian main, ysblennydd, pur: canys y llian main yw cyfiawnderau y saint.

9A dywed wrthyf, ysgrifenna, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i Swper Priodas yr Oen. A dywed wrthyf, Gwirioneddol eiriau Duw yw y rhai hyn.

10A syrthiais wrth ei draed i'w addoli ef. A dywed wrthyf, Gwel na wneli hyn: cyd‐was ydwyf â thi, ac â'th frodyr sydd yn dal tystiolaeth Iesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth.

Crist y Gorchfygwr a'r Brenin.

11A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlawn a Gwirioneddol; ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.

12A'i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben, deyrn‐goronau lawer; a chanddo Enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid edwyn neb ond efe ei hun;

13ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei Enw ef Gair Duw.

14A'r byddinoedd y rhai oedd yn y nef a'u canlynent ef ar feirch gwynion wedi eu dilladu â llian main gwyn a phur.

15Ac allan o'i enau ef y mae yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd âg ef; ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haiarn; ac efe a sathr gerwyn win digofaint llid Duw, yr Hollalluog.

16Ac y mae ganddo ar ei wisg ac ar ei forddwyd Enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD ac ARGLWYDD ARGLWYDDI.

Llwyr ddinystr y gelynion olaf.

17A gwelais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar sydd yn ehedeg yng nghanol y nef. Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i Swper Mawr Duw,

18fel y bwytâoch gnawd brenhinoedd, a chnawd cadfridogion, a chnawd y cedyrn, a chnawd meirch a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chnawd pawb, rhyddion a chaethion hefyd, bychain a mawrion hefyd.

19A gwelais yr Anghenfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u byddinoedd wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel â'r hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei fyddin ef.

20A'r Anghenfil a ddaliwyd, a gyd âg ef yr oedd y Gau‐Brophwyd, yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron ef, a'r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn, y rhai a dderbyniasant nôd yr Anghenfil, a'r rhai a addolasant ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r Llyn Tân yn llosgi â brwmstan.

21A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cnawd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help