2 Corinthiaid 10 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Apostol yn amddiffyn ei Apostolaeth.

1A myfi fy hun, Paul, wyf yn attolwg i chwi, trwy addfwynder a thiriondeb Crist, yr hwn yn bresennol wyf iselwael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hŷf tuag attoch;

2ië, ac yr ydwyf yn deisyf arnoch fod yn hŷf gyda'r hyder â'r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai sydd yn ein cyfrif ni yn rhodio yn ol y cnawd.

3Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd

4(canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond galluog trwy Dduw i fwrw cestyll i lawr);

5gan fwrw i lawr ymresymiadau a phob uchelder sydd yn ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth Duw, a chaethiwo pob meddwl i ufudd‐dod Crist;

6ac yn barod i gospi pob anufudd‐dod, pan gyflawner eich ufudd‐dod chwi.

7Yr ydych yn edrych ar y pethau sydd o flaen y wyneb. Os ymddiried neb ynddo ei hun ei fod yng Nghrist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly ninnau hefyd.

8Canys pe ymffrostiwn ryw faint yn helaethach yng nghylch ein hawdurdod — yr hon a roddodd yr Arglwydd er eich adeiladu i fyny, ac nid er eich bwrw i lawr — ni'm cywilyddir,

9fel nad ymddangoswyf fel yn eich dychrynnu chwi trwy fy llythyrau.

10Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, eithr presennoldeb y corph sydd eiddil, a'r ymadrodd yn ddirmygus.

11Hyn meddylied y cyfryw un, mai y fath ydym ni mewn ymadrodd trwy lythyrau pan yn absennol, yr un fath hefyd y byddwn mewn gweithred pan yn bresennol.

12Canys nid ydym yn beiddio cyfrif ein hunain ym mhlith neu gymharu ein hunain â rhai ydynt yn canmol eu hunain; ond hwynthwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cymharu eu hunain â hwy eu hunain, ydynt heb ddeall;

13eithr nid ymffrostiwn ni tuhwnt i'n mesur, ond yn ol mesur y cylch, yr hwn fel mesur a rannodd Duw i ni, i gyrhaeddyd hyd y nod attoch chwi;

14canys nid ydym yn ymestyn allan tu hwnt i'n mesur, megys pe buasem heb gyrhaeddyd attoch chwi, canys ni a ddaethom hyd y nod hyd attoch chwi yn efengyl Crist;

15nid gan ymffrostio tu hwnt ein mesur, sef yn llafur rhai eraill, eithr gan fod gennym obaith, fel y cynnyddo eich ffydd, y cawn ein mawrygu ynoch chwi yn helaethach yn ol ein cylch,

16fel ag i efengylu hyd y nod yn y parthau tu hwnt i chwi, nid i ymffrostio yng nghylch un arall am bethau yn barod i'n llaw.

17Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd;

18canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help