Dadguddiad Ioan 21 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Nefoedd Newydd a Daear Newydd.

1A gwelais nefoedd a daear newydd, canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aethant heibio; a'r môr nid yw mwyach.

2A gwelais y Ddinas Sanctaidd, Jerusalem newydd, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharotoi fel Priodasferch wedi ei haddurno i'w gŵr.

3A chlywais lef uchel o'r Orsedd yn dywedyd,

Wele, Dabernacl Duw gyda dynion,

Ac efe a dabernacla gyda hwynt,

A hwy a fyddant ei bobloedd ef;

A Duw ei hun a fydd gyda hwynt yn Dduw iddynt.

4Ac efe a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt;

A marwolaeth ni bydd mwyach;

Ac ni bydd chwaith na galar, na gwaedd, na phoen mwyach:

Y pethau cyntaf a aethant heibio.

5A dywedodd yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywed, Ysgrifenna, canys y mae y geiriau hyn yn ffyddlawn a gwirioneddol.

6A dywedodd wrthyf. Cyflawnwyd hwynt. Myfi yw yr Alpha a'r Omega, y Dechreu a'r Diwedd. Myfi a roddaf i'r hwn sydd sychedig o'r ffynnon o ddwfr y bywyd yn rhad.

7Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda y pethau hyn; a byddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.

8Eithr i'r rhai annewr, a'r anghrediniol, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn‐gyfareddwyr, a'r eilun‐addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, bydd eu rhan yn y Llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw yr Ail Farwolaeth.

Y Jerusalem Newydd.

9A daeth un o'r saith angel yr oedd y saith phiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diweddaf; ac efe a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, a danghosaf i ti y Briodasferch, Gwraig yr Oen.

10Ac efe a'm dug i ymaith yn yr Yspryd, i fynydd mawr ac uchel, ac efe a ddanghosodd i mi y Ddinas sanctaidd Jerusalem, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw,

11a gogoniant Duw ganddi. A'i goleuad hi oedd debyg i faen gwerthfawrocaf, megys maen iaspis, yn loyw fel grisial;

12ac iddi fur mawr ac uchel; ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.

13O du y dwyrain yr oedd tri phorth; ac o du y gogledd, tri phorth; ac o du y dehau, tri phorth; ac o du y gorllewin, tri phorth.

14Ac yr oedd i fur y Ddinas ddeuddeg sylfaen, ac arnynt ddeuddeg enwau Deuddeg Apostol yr Oen.

15A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi oedd a chanddo fesur, corsen aur, i fesur y Ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur.

16Ac y mae y Ddinas yn gorwedd yn bedair‐ongl, a'i hyd hi sydd gymaint a'r lled. Ac efe a fesurodd y Ddinas â'r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau: ei hyd a'i lled a'i huchder yn o gymaint.

17A mesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, yn ol mesur dyn, hynny yw, eiddo yr angel.

Yr Adeilad, y Sylfeini, a'r Heol.

18Ac adeilad ei mur hi oedd iaspis; a'r Ddinas oedd aur pur, tebyg i wydr pur.

19Yr oedd sylfeini mur y Ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr. Y sylfaen gyntaf oedd iaspis; yr ail saphir; y drydedd, chalcedon; y bedwaredd, smaragdus;

20y bumed, sardonyx; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolit, yr wythfed, beryl; y nawfed topaz; y ddegfed, chrysopras; yr unfed‐ar‐ddeg, hyacinth; y ddeuddegfed, amethyst.

21A'r deuddeg porth deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl; a heol y Ddinas oedd aur pur, fel gwydr tryloyw.

22A Chysegr ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a'r Oen, yw ei Chysegr hi.

23A'r Ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul na'r lleuad i lewyrchu arni: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i llusern hi yw yr Oen.

24A'r Cenhedloedd a rodiant wrth ei goleuni hi; ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant iddi hi.

25(A'i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd, canys ni bydd nos yno);

26a hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y Cenhedloedd iddi hi.

27Ac nid ä i mewn iddi er dim ddim aflan, neu yr hwn sydd yn gwneuthur ffieidd‐dra a chelwydd; ond yn unig y rhai sydd yn ysgrifenedig yn Llyfr Bywyd yr Oen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help