Ioan 21 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Attodiad.Y ddalfa fawr o bysgod.

1Wedi y pethau hyn yr amlygodd yr Iesu ei hun drachefn i'r Dysgyblion wrth Fôr Tiberias; ac efe a amlygodd ei hun fel hyn:—

2Yr oedd ynghyd Simon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanäel o Cana yn Galilea, a meibion

Zededëus, a dau eraill o'i Ddysgyblion ef.

3Dywed Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned ymaith i bysgota. Y maent yn dywedyd wrtho, Yr ydym ninau hefyd yn dyfod gyd â thi. Hwy a aethant allan, ac a aethant i'r cwch, a'r nos hono ni ddaliasant ddim.

4A phan oedd y wawr weithian yn tori, yr Iesu a safodd ar y traeth: er hyny ni wyddai y Dysgyblion mai yr Iesu ydyw.

5Yr Iesu gan hyny a ddywed wrthynt, Fechgyn, A oes genych enllyn? Hwy a atebasant iddo, Nac oes.

6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu deheu i'r cwch, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hyny, ac ni allent bellach ei thynu gan y lluaws pysgod.

7Dywed gan hyny y Dysgybl hwnw yr oedd yr Iesu yn ei garu wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Simon Petr gan hyny, pan glywodd, Yr Arglwydd yw, a wregysodd ei arwisg; canys yr oedd efe yn noeth, ac a fwriodd ei hun i'r môr.

8Eithr y Dysgyblion eraill a ddaethant yn y cwch bychan (oblegyd nid oeddynt bell oddiwrth y tir, ond tua dau can cufydd), gan lusgo y rhwydaid o bysgod.

9Pan ddaethant gan hyny allan ar y tir, y maent yn canfod tân golosg wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara.

10Dywed yr Iesu wrthynt, Dygwch o'r pysgod a ddaliasoch yn awr.

11Simon Petr gan hyny a aeth i fyny i'r cwch, ac a dynodd y rhwyd i'r tir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorodd y rhwyd.

12Dywed yr Iesu wrthynt, Deuwch, bwytêwch foreu‐fwyd. Ac ni feiddiai neb o'r Dysgyblion ei holi yn fanwl, Pwy wyt ti, gan eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd ydyw.

13Y mae yr Iesu yn dyfod, ac yn cymmeryd y bara, ac yn rhoddi iddynt, a'r pysgod yr un modd.

14Hon weithian oedd y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i'r Dysgyblion, wedi ei gyfodi o feirw.

Cyffes a swydd Petr.

15Wedi iddynt gan hyny gymmeryd boreu‐fwyd, dywed yr Iesu wrth Simon Petr, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn di. Dywed yntau wrtho, Portha fy wyn.

16Dywed wrtho drachefn yr ail waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid.

17Dywed efe wrtho y drydedd waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy hoffi i? Petr a dristawyd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy hoffi i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti ydwyt yn canfod fy mod yn dy hoffi di. Iesu a ddywed wrtho, Portha fy nefaid.

Dyfodol Petr ac Ioan.

18Yn wir, yn wir, meddaf i ti, pan oeddit ieuengach, ti a wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynaist; eithr pan heneiddi, ti a estyni dy ddwylaw, ac arall a'th wregysa, ac a'th gluda lle ni fynit.

19A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath farwolaeth y gogoneddai Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, dywed wrtho, Canlyn fi.

20Petr wedi troi, sydd yn gweled y Dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn; yr hwn hefyd a bwysodd yn ol yn y Swper ar ei fynwes ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn dy fradychu di?

21Petr gan hyny wrth ei weled ef, a ddywed wrth yr Iesu, Arglwydd, A beth fydd i hwn?

22Dywed yr Iesu wrtho, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti? Canlyn fi.

23Y gair hwn gan hyny a aeth allan yn mhlith y Brodyr, Nid yw y Dysgybl hwnw i farw: eto ni ddywedodd yr Iesu wrtho, Nid yw efe i farw; ond, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti?

Tystiolaeth y Dysgybl Anwyl a'r Eglwys.

24Hwn yw y Dysgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn: ac yr ydym yn gwybod fod ei dystiolaeth ef yn wir.

25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, yr wyf yn tybied na chynwysai hyd y nod y byd ei hun y llyfrau a ysgrifenid.

YN OL IOAN.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help