1Ond am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen dim i'w ysgrifennu attoch,
2canys chwi eich hunain a wyddoch yn gywir fod Dydd yr Arglwydd felly yn dyfod fel lleidr yn y nos.
3Pan ddywedant, Tangnefedd a dyogelwch, yna y mae dinystr disymmwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megys gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiangant o gwbl.
4Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y Dydd chwi megys lleidr;
5canys chwychwi oll, meibion y goleuni ydych a meibion y dydd, nid ydym ni o'r nos nac o'r tywyllwch.
6Yn wir gan hynny, na chysgwn fel y lleill, eithr gwyliwn a byddwn sobr;
7canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant, a'r rhai a feddwant y nos y meddwant;
8ond nyni, a ni o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac fel helm, gobaith iachawdwriaeth.
9Canys ni phennododd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffaeliad iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10yr hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag ai gwylied ai cysgu y byddom, y byddom fyw ynghyd gydag ef.
11Gan hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megys ag yr ydych yn gwneuthur.
Cynghorion ymarferol.12Ac yr ydym yn gofyn i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac ydynt yn eich llywodraethu yn yr Arglwydd,
13ac yn eich cynghori, a gwneuthur cyfrif mawr iawn o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.
14Ac yr ydym yn eich cynghori, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus; cysurwch y rhai gwan‐galon; cynheliwch y gweiniaid; byddwch ymarhous wrth bawb.
15Gwelwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dylynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.
16Byddwch lawen yn wastadol.
17Gweddiwch yn ddibaid.
18Ym mhob peth diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag attoch chwi.
19Na ddiffoddwch yr Yspryd.
20Na ddiystyrwch brophwydoliaethau.
21Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.
22Ymgedwch rhag pob ffurf o ddrygioni.
23A Duw y tangnefedd, efe ei hun a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer yn gyfan oll eich yspryd a'ch enaid a'ch corph yn ddifeius yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
24Ffyddlawn yw yr hwn sydd yn eich galw, yr hwn hefyd a'i gwna.
Y Diweddglo.25Frodyr, gweddiwch drosom.
26Annerchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd.
27Yr wyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd ar ddarllen y llythyr i'r holl frodyr.
28Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.