2 Corinthiaid 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cymmeriad aruchel y weinidogaeth a'i dewr weinidogion.

1O herwydd hyn, a chennym y weinidogaeth hon, megys y trugarhâwyd;

2eithr ni a ymwadasom â chuddiedig bethau cywilydd, gan beidio rhodio mewn cyfrwystra a llygru gair Duw; eithr trwy amlygiad o'r gwirionedd yr ydym yn cymmeradwyo ein hunain i bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.

3Ac os cuddiedig hefyd yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig;

4yn y rhai y dallodd duw y byd hwn y rhai annghrediniol, fel na thywynai arnynt

lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.

5Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu fel Arglwydd, a ni ein hunain yn weision i chwi er mwyn Iesu.

6Canys Duw, yr hwn a ddywedodd:

O dywyllwch goleuni a lewyrcha.

7Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.

8Yn cael ein gwasgu ym mhob modd, eithr heb ei bod yn gyfyng arnom; heb wybod lle i droi, eithr nid yn hollol ddi‐obaith;

9yn cael ein herlid, eithr heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom;

10yn wastad yn dwyn o amgylch yn y corph farwolaeth Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein corph ni.

11Canys nyni y rhai ydym yn fyw a draddodir yn wastadol i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, eithr bywyd ynoch chwi.

13Ond gan fod gennym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;

14gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n cyflwyno gyda chwi.

15Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i'r gras, wedi amlhâu trwy y mwyafrif, beri i'r diolchgarwch ymhelaethu, i ogoniant Duw.

16O herwydd paham nid ydym yn digalonni; ond er fod ein dyn oddiallan yn dadfeilio, ein dyn oddimewn a adnewyddir o ddydd i ddydd;

17canys y mae ein hysgafn gystudd, yr hwn sydd am y foment, yn gweithio allan i ni yn fwy‐fwy ragorol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help