1Ac efe a aeth i mewn drachefn i Synagog, ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.
2Ac yr oeddynt yn ei wylio, a iachäai efe ef ar y Sabbath, fel y cyhuddent ef.
3Ac efe a ddywed wrth y dyn oedd a'r law wywedig ganddo, Cyfod i'r canol.
4Ac efe a ddywed wrthynt, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? Cadw einioes, ynte lladd? Eithr hwy a dawsant.
5Ac wedi edrych oddiamgylch arnynt gyda digllonedd, gan dristhau am galedrwydd eu calonau, efe a ddywed wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ae efe a'i hestynodd, a'i law ef a adferwyd y dyfethent ef.
7A'r Iesu gyda'i Ddysgyblion a giliodd tua'r môr, a lluaws lawer o Galilea a ganlynasant;
8ac o Judea, ac o Jerusalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ac o gylch Tyrus a Sidon, lluaws lawer, gan glywed cymmaint a wnaeth efe, a ddaethant ato.
9Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion a'r fod i gwch i weini arno, o herwydd y dyrfa, rhag iddynt ei lethu ef:
10canys efe a iachasai lawer, hyd oni ruthrent arno, fel y cyffyrddent ag ef, cynnifer ag oedd âg anhwylderau arnynt.
11A'r ysprydion aflan, pa bryd bynag y syllent arno, a syrthient ger ei fron ef, ac a waeddent, gan ddywedyd, Tydi ydwyt Fab Duw.
12Ac efe a waharddodd iddynt yn llym nas gwnelent ef yn adnabyddus.
Pennodiad y Deuddeg[Mat 10:2–4; Luc 6:12–16]13Ac efe a esgyn i'r mynydd, ac a eilw ato y rhai a fynai efe, a hwy a ddaethant ato.
14Ac efe a neillduodd Ddeuddeg, rhai a alwodd efe hefyd yn Apostolion], fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu;
15ac i fod ganddynt awdurdod i fwrw allan gythreuliaid.
16Ac ar Simon y rhoddodd efe enw, Petr;
17ac Iago, fab Zebedeüs, ac Ioan, brawd Iago; ac arnynt hwy y rhoddodd efe enw Boanerges, yr hyn ydyw, Meibion Taran;
18ac Andreas, a Philip, a Bartholomeüs, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alpheüs, a Thaddeüs, a Simon y Cananëad,
19a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.
Crist yn cael ei gyhuddo gan ei berthynasau o wallgofrwydd.20Ac y maent yn dyfod i dy; a'r dyrfa a ymgynnullodd drachefn, fel na allant gymmaint a bwyta bara.
21A phan glybu ei berthynasau ef, hwy a aethant allan i'w ddal ef; canys dywedent, Y mae efe allan o bwyll.
A chan yr Ysgrifenyddion o fod mewn cyngrair a Satan[Mat 12:22–27; Luc 11:14–23]22A'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant i waered o Jerusalem, a ddywedasant, Y mae Beelzebwl ganddo, ac, Trwy Dywysog y Cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y Cythreuliaid.
23Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn dammegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24Ac o bydd teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas hono sefyll.
25Ac o bydd tŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni fydd y tŷ hwnw yn alluog i sefyll.
26Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymranu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
27Eithr ni ddichon neb, wedi myned i fewn i dŷ y cadarn, ysbeilio ei lestri ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.
28Yn wir, meddaf i chwi, y maddeuir i feibion dynion yr holl bechodau, a'r cableddau, pa gymmaint bynag y cablant.
29Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr y mae efe mewn perygl o bechod tragywyddol:
30am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.
Cenadwri ei fam a'i frodyr[Mat 12:46–50; Luc 8:19–21]31Ac y mae ei fam a'i frodyr ef yn dyfod; a chan sefyll o'r tu allan, hwy anfonasant ato, gan ei alw ef.
32A thyrfa a eisteddent o'i amgylch ef, ac a ddywedant wrtho, Wele y mae dy fam a'th frodyr y tu allan, yn dy geisio di.
33Ac efe gan ateb, a ddywed wrthynt, Pwy ydyw fy mam i, a'm brodyr?
34Ac wedi iddo edrych oddiamgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywed, Wele fy mam i, a'm brodyr i.
35Canys pwy bynag a wnelo ewyllys Duw, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.