Actau 10 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cornelius: ei gymeriad a'i weledigaeth, 1–8.

1A rhyw wr yn Cesarea, o'r enw Cornelius, Canwriad o'r gatrawd a elwid yr Italaidd,

2gwr duwiol ac yn ofni Duw ynghyd a'i holl dy, yn gwneuthur elusenau lawer i'r bobl, ac yn gweddio ar Dduw yn wastadol,

3a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.

4Ac wedi iddo graffu arno a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau a'th elusenau a ddaethant i fyny yn goffadwriaeth gerbron Duw.

5Ac yn awr, anfon wyr i Joppa, a danfon am un Simon, yr hwn a gyfenwir Petr:

6y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer, ty yr hwn sydd wrth y mor.

7Ac mor gynted ag yr ymadawodd yr Angel a lefarodd wrtho, efe a alwodd ar ddau o weision ei dy, a milwr duwiol o'r rhai oedd yn glynu wrtho;

8ac wedi adrodd yr oll iddynt, efe a'u hanfonodd hwynt ymaith i Joppa.

Gweledigaeth Petr: ei barotoi i dderbyn y Cenhedloedd, 9–16.

9A thranoeth, fel yr oeddent hwy yn ymdeithio, ac yn neshâu at y ddinas, Petr a aeth i fyny ar nen y ty i weddio, ynghylch y chweched awr:

10a daeth arno chwant bwyd, ac a ddymunai fwyta: ond fel yr oeddent yn parotoi, daeth arno lewyg:

11ac y mae yn gweled y Nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn megys llen‐llian fawr, wedi ei gollwng i lawr wrth ei phedair congl ar y ddaear:

12yn yr hwn yr oedd holl anifeiliaid pedwar‐troediog ac ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid y nef.

13A daeth llef ato, Cyfod, Petr, lladd a bwyta.

14Eithr Petr a ddywedodd, Na wnaf er dim, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan.

15A daeth llef drachefn, yr ail waith, ato, Yr hyn a lanhaodd Duw, na wna di yn gyffredin.

16A hyn a wnaed dair gwaith; ac yn ebrwydd y cymerwyd y llestr i fyny i'r nef.

Cenadon Cornelius yn dywedyd eu neges wrth Petr, 17–23.

17Ac fel yr oedd Petr yn petruso yn ddirfawr ynddo ei hun beth a allasai y weledigaeth a welodd fod, wele, y gwyr oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi ymofyn am dy Simon, a safasant wrth y porth.

18Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletya yno.

19A Phetr yn dwys ystyried ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd wrtho, Wele dri o wyr yn dy geisio di.

20Eithr cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amheu dim: o herwydd myfi sydd wedi eu hanfon hwynt.

21A Phetr wedi disgyn at y gwyr, a ddywedodd, Wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio: pa beth yw yr achos o herwydd yr hwn yr ydych bresenol?

22A hwy a ddywedasant, Cornelius, Canwriad, gwr cyfiawn ac yn ofni Duw, a thystiolaeth dda iddo gan holl genedl yr Iuddewon, a gyfarwyddwyd genyt.

23Gan hyny efe a'u gwahoddodd i mewn ac a'u lletyodd.

Petr yn myned i Cesarea, ac yn cael ei roesawu gan Cornelius, 23–29.

A thranoeth efe a gyfododd, ac a aeth allan gyda hwynt, a rhai o'r brodyr o Joppa a aethant gydag ef.

24A thranoeth efe a aeth i mewn i Cesarea: ac yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a'i gyfeillion mynwesol.

25A bu fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a addolodd.

26Eithr Petr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finau hefyd.

27A than ymgymdeithasu, ac a gafodd lawer wedi dyfod ynghyd:

28ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mor anghyfreithlawn yw i wr o Iuddew ymlynu wrth, neu ddyfod at, un o genedl arall: a Duw a ddangosodd i mi na alwn i neb rhyw ddyn yn gyffredin neu aflan:

29am hyny, hefyd, yn ddinag y daethum pan anfonwyd am danaf. Yr wyf yn gofyn gan hyny am ba reswm yr anfonasoch am danaf?

Adroddiad Cornelius ac araeth Petr, 30–43.

30A Chornelius a ddywedodd, Y pedwerydd diwrnod yn ol, a chyfrif hyd yr awr hon, yr oeddwn yn gweddio ar y nawfed awr

yn fy nhy: ac wele, safodd gwr ger fy mron mewn gwisg ddysglaer.

32Am hyny anfon i Joppa, a galw yma Simon, yr hwn a gyfenwir Petr; y mae efe yn lletya yn nhy Simon, barcer, ar lan y môr.

33Yn ddioed gan hyny, myfi a anfonais atat: tithau hefyd a wnaethost yn dda wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, yr ydym ni oll yn bresenol gerbron Duw i wrandaw yr holl bethau sydd wedi eu gorchymyn i ti gan yr Arglwydd.

34A Phetr a agorodd ei enau ac a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn canfod nad yw Duw dderbyniwr wyneb:

35ond yn mhob cenedl yr hwn sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef.

36Chwi a wyddoch

y gair yr hwn a ddanfonodd efe i Feibion Israel, gan efengylu tangnefedd trwy Iesu Grist (efe yw Arglwydd pawb),

37— chwi a wyddoch y mater a gyhoeddwyd trwy holl Judea, gan ddechreu o Galilea ar ol y Bedydd a bregethodd Ioan:—

38chwi a wyddoch Iesu o Nazareth, y modd yr eneiniodd Duw ef â'r Yspryd Glân a gallu: yr hwn a aeth trwy y wlad, gan wneuthur daioni ac iachâu pawb oedd wedi eu gormesu gan y Diafol; oblegyd yr oedd Duw gydag ef.

39Ac yr ydym ni yn dystion o'r holl bethau a wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon ac yn Jerusalem; yr hwn hefyd a laddasant gan ei grogi ar bren.

40Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddodd i gael ei wneuthur yn amlwg,

41nid i'r holl bobl, eithr i dystion a rag‐benodwyd gan Dduw, i ni, y rhai a gyd‐fwytasom ac a gyd‐yfasom gydag ef ar ol ei adgyfodi ef o feirw.

42Ac efe a orchymynodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu yn eglur mai efe yw yr hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.

‘Pentecost’ y Cenedl‐ddyn, 44–48.

44A thra yr oedd Petr yn llefaru y pethau hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb, a oedd yn clywed y Gair.

45A'r rhai o'r Enwaediad a oeddent yn credu a synasant, cynifer ag a ddaethant gyda Phetr, am fod dawn yr Yspryd Glân wedi ei dywallt ar y Cenhedloedd hefyd.

46Canys yr oeddent yn eu clywed hwy yn llefaru a thafodau, ac yn mawrygu Duw.

47Yna yr atebodd Petr, A all neb, o bosibl, luddias y Dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd Glân fel ninau?

48Ac efe a orchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna y gofynasant iddo aros yn mlaen rai dyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help