1Pa beth, ynte, yw rhagoriaeth yr Iuddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad?
2Llawer ym mhob modd: yn gyntaf, yn wir, oblegyd ddarfod ymddiried iddynt am oraclau Duw.
3Oblegyd beth os annghredodd rhai? a wna eu hannghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw yn ddirym?
4Ddim o gwbl! eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog, megys y mae yn ysgrifenedig: Fel y'th gyfiawnhâer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner.
5Eithr os ein hannghyfiawnder ni a ganmol gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? ai annghyfiawn yw Duw yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dull dyn yr wyf yn dywedyd);
6ddim o gwbl! os felly, pa fodd y barna Duw y byd?
7Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a ymhelaethodd i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau hefyd etto fel pechadur?
8a phaham nad (fel y'n ceblir, ac fel y dywed rhai ein bod yn dywedyd) “Gwnawn ddrwg fel y del ddaioni?” y rhai y mae eu dedfryd yn gyfiawn.
Pawb yn Gollfarnedig dan Gaethiwed Pechod.9Beth gan hynny? a ragorir arnom ni? ddim o gwbl; canys ni a gyhuddasom Iuddewon a Groegiaid hefyd eu bod oll dan bechod;
10fel y mae yn ysgrifenedig, Nid oes cyfiawn, ddim un;
11Nid oes neb yn deall, nid oes neb yn ceisio Duw;
12Gŵyrasant oll, aethant un ac oll yn anfuddiol; nid oes yn gwneyd daioni, nid oes hyd y nod un:
13Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau:
14Y rhai y mae eu genau yn orlawn o felldith a chwerwedd:
15Buan yw eu traed i dywallt gwaed;
16Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd;
17A ffordd tangnefedd nid adwaenasant:
18Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.
19Ond ni a wyddom am ba bethau bynnag y mae y ddeddf yn eu dywedyd, wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn llefaru, fel y cauer pob genau, ac fel yr elo yr holl fyd yn agored i farn Duw:
20O herwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd ger ei fron ef; canys trwy ddeddf y mae adnabod pechod.
Nid trwy Ddeddf ond trwy Ffydd y Cyfiawnheir,21Eithr yn awr, ar wahan i ddeddf, y mae cyfiawnder o eiddo Duw wedi ei amlygu, i'r hwn y tystiolaethir gan y ddeddf a'r prophwydi;
22sef cyfiawnder Duw trwy ffydd Iesu Grist i bawb sydd yn credu: canys nid oes gwahaniaeth;
23oblegyd pawb a bechasant, ac ydynt yn amddifad o ogoniant Duw,
24ond yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef trwy y brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:
25yr hwn a osododd Duw allan yn Drugareddfa heibio i'r pechodau a wnaethpwyd o'r blaen, yn nyoddefgarwch Duw;
26er arddangosiad o'i gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe ei hun yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd o ffydd Iesu.
27Pa le gan hynny y mae yr ymffrost? Cauwyd ef allan. Trwy ba fath ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd.
28Canys yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, ar wahan oddiwrth weithredoedd deddf.
29Ai Duw i Iuddewon yn unig yw efe? onid i Genhedloedd hefyd? Ië, i Genhedloedd hefyd,
30os yn wir un yw Duw, yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad mewn canlyniad i ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.
31A ydym, gan hynny, yn dirymmu deddf trwy ffydd? Ddim o gwbl! eithr yr ydym yn cadarnhau deddf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.