2 Corinthiaid 13 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr Ymchwiliad difrifol.

1Hon yw y drydedd waith yr ydwyf yn dyfod attoch. Yng ngenau dau dyst neu dri y sefydlir pob gair.

2Rhag‐ddywedais ac yr wyf yn rhag‐ddywedyd, fel pan

yn bresennol yr ail waith, ac yr awrhon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill oll, os deuaf drachefn, nad arbedaf:

3gan eich bod yn ceisio prawf o'r Crist sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol yn eich mysg;

4canys croeshoeliwyd ef yn wir trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw. Canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy allu Duw tuag attoch chwi.

5Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd: gwnewch brawf o honoch eich hunain: neu oni lawn adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi? oddieithr yn wir eich bod yn annghymmeradwy.

6Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn annghymmeradwy.

7Ac yr ydym yn gweddio ar Dduw na wneloch ddim sydd ddrwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd iawn, er i ni fod fel yn annghymmeradwy.

8Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr dros y gwirionedd.

9Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid a chwithau yn gryfion; hyn hefyd yr ydym yn gweddio am dano, sef eich perffeithiad chwi.

10O herwydd hyn, a myfi yn absennol, yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf yn bresennol, nad ymddygaf yn llym yn ol yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.

Diweddglo.

11Bellach, frodyr, byddwch wych: byddwch berffaith: dyddaner chwi: syniwch yr un peth: byddwch heddychol: a Duw y cariad a'r heddwch fyddo gyda chwi.

12Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd:

13Y mae yr holl saint yn eich annerch.

14Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyda chwi oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help