1I ryddid y rhyddhâodd Crist ni: sefwch gan hynny yn gadarn, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.
Defodaeth a Christ yn wrthwynebol.2Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os mynnwch enwaediad, ni leshâ Crist ddim i chwi.
3Ac yr wyf yn tystio drachefn i bob dyn ar a enwaedir, ei fod yn ddyledwr i wneuthur yr holl Ddeddf.
4Chwi a wnaed yn ddirym oddiwrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhâu trwy ddeddf; chwi a syrthiasoch oddiwrth ras.
5Canys nyni trwy yr Yspryd o ffydd a ddysgwyliwn yn daer obaith cyfiawnder.
6Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
7Yr oeddech yn rhedeg yn dda: pwy a'ch rhwystrodd, fel nad ufuddhâech i'r gwirionedd?
8Ni ddaeth y darbwylliad hwn oddiwrth yr Hwn sydd yn eich galw chwi.
9Y mae ychydig lefain yn lefeinio yr holl does.
10Y mae gennyf hyder ynoch chwi yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond yr hwn sydd yn eich cythryblu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
11Ond myfi, frodyr, os enwaediad etto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir etto? yna y mae tramgwydd y Groes wedi ei ddiddymmu.
12Mi a fynnwn, ië, pe byddai i'r rhai sydd yn eich ansefydlu hyd y nod dorri eu hunain ymaith.
Cynghorion difrifol.13Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr; yn unig na ddefnyddiwch eich rhyddid yn achlysur i'r cnawd; ond trwy gariad byddwch weision i'ch gilydd.
14Canys yr holl Ddeddf a gyflawnir mewn un gair, yn hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.
15Eithr os cnipgnoi a thraflyngcu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddyfethir chwi gan eich gilydd.
16Ond meddaf, Rhodiwch wrth yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.
17Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd; canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i'w gilydd, fel na wneloch y pethau a ewyllysioch.
18Ond os gan yr Yspryd y'ch arweinir, nid ydych dan ddeddf.
19Ond amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydynt,, godineb, aflendid, anlladrwydd,
20delw‐addoliaeth, dewiniaeth, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, brad‐gynllwynion, ymraniadau, pleidiau, cenfigennau,
21[llofruddiaethau], meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf yn rhag‐ddywedyd i chwi, megys y rhag‐ddywedais, y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau ni chänt etifeddu Teyrnas Dduw yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir‐ymaros, hynawsedd, daioni, ffyddlonder,
23addfwynder, hunan‐reolaeth: yn erbyn y cyfryw nid oes deddf.
24A'r rhai sydd o Grist Iesu a groeshoeliasant y cnawd, ynghyd a'i wyniau a'i chwantau.
25Os byw ydym wrth yr Yspryd, wrth yr Yspryd hefyd rhodiwn.
26Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan gythruddo ein gilydd, gan genfigennu wrth ein gilydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.