1Byddwch efelychwyr o honof fi, megys yr wyf finnau hefyd o Grist.
Safle ac ymddygiad y gwragedd.2Ac yr wyf yn eich canmol,, gan eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau fel y traddodais hwynt i chwi.
3Eithr ewyllysiaf i chwi wybod mai pen pob gwr yw Crist; a phen y wraig yw y gwr; a phen Crist yw Duw.
4Pob gwr yn gweddio ac yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben, sydd yn dianrhydeddu ei ben;
5eithr pob gwraig yn gweddio ac yn prophwydo, a'i phen heb orchudd, sydd yn dianrhydeddu ei phen: canys yr un peth yw â'r un sydd wedi ei heillio.
6Canys os na bydd gwraig yn gwisgo gorchudd, cneifier hi hefyd; eithr os cywilyddus i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged orchudd.
7Canys gwr yn wir ni ddylai wisgo gorchudd am ei ben, am ei fod o'r dechreu yn ddelw a gogoniant Duw;
8ond y wraig yw gogoniant y gwr; canys nid yw y gwr o'r wraig ond y wraig o'r gwr;
9canys ni chrewyd y gwr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gwr:
10o herwydd hyn dylai y wraig fod ganddi arwydd awdurdod ar ei phen, o herwydd yr angelion.
11Er hynny, nid yw gwraig ar wahân a gwr, na gwr ar wahân a gwraig, yn yr Arglwydd;
12canys yr un wedd ag y mae y wraig o'r gwr, felly hefyd y mae y gwr trwy y wraig; eithr pob peth sydd o Dduw.
13Bernwch chwi ynoch eich hunain, ai gweddus yw i wraig weddio ar Dduw heb orchudd?
14Onid yw hyd y nod naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd gwr â gwallt hir, gwarthrudd yw iddo?
15Eithr os gwraig a fydd â gwallt hir, gogoniant yw iddi; canys ei hir‐wallt sydd wedi ei roddi yn lle gorchudd iddi.
16Ond os ymddengys neb yn ymryssongar, nid oes gennym ni y fath arfer, na chan eglwys Dduw.
Afreoleidd‐dra yng nghadwraeth Swper yr Arglwydd.17Eithr wrth orchymyn hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd nid er gwell, ond er gwaeth;
18canys, yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr wyf yn clywed fod ymraniadau yn eich plith, ac mewn rhan yr wyf yn ei gredu.
19Canys rhaid fod hefyd bleidiau yn eich mysg, fel y delo y rhai cymmeradwy yn amlwg yn eich plith chwi.
20Pan fyddoch gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid yw i fwytta Swper yr Arglwydd, ac arall yn feddw.
22Yn wir, onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? neu ai dirmygu yr ydych eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.
23Canys myfi a dderbyniais gan, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd,, Hwn yw fy nghorph, yr hwn sydd drosoch: gwnewch hyn er côf am danaf.
25Yr un modd hefyd y cwpan, ar ol swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfammod Newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynnifer gwaith bynnag yr yfoch, er côf am danaf.
26Canys cynnifer gwaith bynnag y bwyttâoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan, y cyhoeddwch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo.
27O ganlyniad, pwy bynnag a fwyttâo y bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd mewn modd annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.
28Eithr profed dyn ef ei hun, ac felly bwyttâed o'r bara, ac yfed o'r cwpan.
29Canys yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, pan nad yw yn iawn‐farnu y corph.
30O herwydd hyn y mae llawer yn eich plith yn weiniaid ac yn dihoeni, ac amryw yn huno;
31ond pe iawn‐farnem ein hunain, ni'n bernid.
32Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd y'n ceryddir, fel na'n collfarner gyda'r byd.
33Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd.
34Os bydd newyn ar neb, bwyttâed yn ei dŷ, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.