1 Corinthiaid 15 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Adgyfodiad Crist yn ffaith.

1Ac yr wyf yn gwneyd yn hyspys i chwi, frodyr, yr efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll,

2trwy yr hon hefyd yr ydych gadwedig, os ydych yn dal gafael yn yr hyn a efengylais i chwi, oddieithr i chwi gredu yn ofer.

3Canys mi a draddodais i chwi ym mhlith y pethau cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau, yn ol yr Ysgrythyrau;

4a'i gladdu; a'i fod wedi cael ei gyfodi y trydydd dydd, yn ol yr Ysgrythyrau;

5ac ymddangos o hono i Cephas; yna i'r Deuddeg;

6wedi hynny, efe a ymddangosodd i fwy na phum' cant o frodyr ar un waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yn awr; eithr rhai a hunasant.

7Wedi hynny yr ymddangosodd i Iago; yna i'r apostolion oll.

8Ac yn ddiweddaf o'r cwbl, megys i'r un annhymig, yr ymddangosodd hefyd i mi;

9canys myfi yw y lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Crist.

10Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer, eithr mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll; etto nid myfi, ond gras Duw gyda mi.

11Pa un bynnag gan hynny ai myfi ai hwynt hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.

Os cyfodwyd Crist, cyfodir ninnau.

12Ac os pregethir Crist ei fod wedi ei gyfodi o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi nad oes adgyfodiad y meirw?

13Eithr os nad oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith;

14ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yn wir yw ein pregethiad ni, ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.

15Ac fe'n ceir hyd y nod yn au-dystion i Dduw, canys ni a dystiasom am Dduw ddarfod iddo gyfodi Crist, yr hwn nis cyfododd efe, os yn wir, y meirw ni chyfodir.

16Canys os y meirw ni chyfodir, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith;

17ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, diwerth yw eich ffydd chwi: yr ydych etto yn eich pechodau;

18yn wir hefyd y rhai a hunasant yng Nghrist a gyfrgollwyd.

19Os yn unig yn y bywyd hwn yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, truenusaf o bob dynion ydym ni.

Effeithiau adgyfodiad Crist.

20Eithr yn awr y mae Crist wedi ei gyfodi oddiwrth y meirw, blaenffrwyth y rhai a hunasant.

21Canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw.

22Canys megys yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn y Crist y bywhêir pawb.

23Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; yna y rhai ydynt eiddo Crist yn ei Ddyfodiad ef.

24Yna y diwedd, pa bryd bynnag y rhoddo efe i fyny y deyrnas i Dduw a'r Tâd, pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth, a phob awdurdod a gallu ei holl elynion dan ei draed.

26Y gelyn diweddaf a ddiddymmir yw Angau.

27Canys pob peth a ddarostyngodd efe dan ei draed ef: a phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw y gadewir allan yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo.

28A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun a ddarostyngir i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.

Yr Adgyfodiad yn gysson â hunan‐aberth.

29Os amgen beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir o gwbl? paham hefyd y bedyddir hwy drostynt?

30Paham hefyd yr ydym ninnau mewn perygl bob awr?

31Yr wyf yn ardystio yn enw fy ymffrost ynoch, frodyr, yr hwn sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yr wyf yn marw beunydd.

32Os yn ol dull dyn yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa leshâd sydd i mi? Oni chyfodir y meirw, bwyttâwn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym.

33Na cham-arweinier chwi: y mae cwmpeini drwg yn llygru moesau da.

34Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys nid oes gan rai wybodaeth o Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn llefaru.

Yr Adgyfodiad a chorph yr Adgyfodiad.

35Eithr dywed rhyw un, Pa fodd y codir y meirw? ac a pha fath gorph y deuant?

36O ddyn anneallus, yr hyn yr wyt ti yn ei hau ni fywhêir oni bydd farw.

37A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, ond gronyn noeth, efallai o wenith, neu ryw un o'r hadau eraill;

38eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd efe, ac i bob un o'r hadau gorph o'i eiddo ei hun.

39Nid yw pob cnawd yr un cnawd; eithr un yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, ac arall yw cnawd adar, ac arall yw cnawd pysgod.

40Y mae hefyd gyrph nefol a chyrph daearol; ond gwahanol yw gogoniant y rhai nefol, a gwahanol yw gogoniant y rhai daearol.

41Un yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lleuad, ac arall yw gogoniant y sêr; canys y mae seren yn gwahaniaethu oddiwrth seren mewn gogoniant.

42Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth;

43heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu;

44heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol.Os oes corph anianol, y mae hefyd gorph ysprydol.

45Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhâu.

46Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol, ac wedi hynny, yr ysprydol.

47Y dyn cyntaf sydd o'r ddaear, yn ddaearol; yr ail ddyn sydd o'r nef.

48Yn y cyfryw fodd ag yw y daearol, yn y cyfryw fodd hefyd y mae y rhai daearol; ac yn y cyfryw fodd ag yw y nefol, yn y cyfryw fodd hefyd y mae y nefol;

49ac megys y dygasom ddelw y daearol, bydded i ni ddwyn hefyd ddelw y nefol.

Trawsffurfiad y corph anianol yn anhebgorol.

50Eithr hyn meddaf, frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.

51Wele! yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni oll a newidir,

52mewn moment, mewn tarawiad llygad, wrth yr udgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir;

53canys rhaid i'r llygradwy hwn ymwisgo.

55Pa le, O angau, dy fuddugoliaeth? Pa le, O angau golyn?

56Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw y Ddeddf;

57ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

58Am hynny, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, a diysgog, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help