1Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd.., yr oll o'r Hen Gyfieithiadau, &c. Gad א B.
Ephesus] a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu:2Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
Bwriad grasol a phrynedigaeth effeithiol.3Bendigedig fyddo
Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist;4fel yr etholodd ni ynddo Ef, cyn seiliad y byd, ar fod o honom yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef:
5wedi iddo, mewn cariad, ein rhagordeinio i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys,
6er mawl gogoniant ei ras, yr hwn a rad‐roddodd efe i ni, yn yr Anwylyd,
7yn yr hwn y mae gennym brynedigaeth trwy ei waed, maddeuant o'n troseddau, yn ol cyfoeth ei ras,
8yr hwn a wnaeth Efe ymhelaethu tuag attom ni, wedi iddo, ym mhob doethineb a deall,
9hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ol ei foddlonrwydd, yr hwn a arfaethodd Efe ynddo ei hun,
10mewn perthynas i gyfundrefn cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd drachefn bob peth yng Nghrist, y rhai yn y nefoedd, a'r rhai ar y ddaear,
11ynddo Ef, yn yr hwn hefyd y'n gwnaed yn etifeddiaeth, wedi ein rhag‐ordeinio yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor ei ewyllys,
12fel y byddem er mawl ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o'r blaen yng Nghrist;
13yn yr hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, — yn yr hwn, wedi credu o honoch hefyd, y'ch seliwyd âg Yspryd Glân yr Addewid,
14yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth hyd brynedigaeth ei berchenogaeth, i fawl ei ogoniant.
Diolch a Gweddi.15O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu yr hon sydd yn eich plith, tuag at yr holl saint,
16nid wyf yn peidio a diolch drosoch, gan wneuthur coffa yn fy ngweddiau,
17ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y Gogoniant, roddi i chwi Yspryd doethineb a dadguddiad, mewn llawn‐adnabyddiaeth o hono ef;
18wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon, fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth yn y saint,
19a pheth yw rhagorol fawredd ei allu tuag attom ni sydd yn credu, yn ol gweithrediad cadernid ei nerth ef,
20yr hwn a weithredodd Efe yng Nghrist, gan ei gyfodi o feirw a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd,
21goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw;
22ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef ac a'i rhoddodd ef yn Ben dros bob peth i'r Eglwys,
23yr hon yw ei Gorph ef, cyflawnder yr hwn sydd yn llenwi oll ag oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.