1Paul a Silfanus a Thimotheus, at Eglwys y Thessaloniaid yn Nuw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist:
2Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
Diolch am ffyddlondeb mewn anhawsderau.3Diolch i Dduw a ddylem yn wastadol drosoch chwi, frodyr, fel y mae yn addas, gan fod eich ffydd yn mawr‐gynnyddu, a chariad pob un o honoch oll yn gorlifo tuag at eich gilydd,
4fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw am eich amynedd a'ch ffydd, yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef,
5yr hyn sydd yn argoel amlwg o gyfiawn farn Duw; fel y'ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, dros yr hon yr ydych yn dyoddef;
6os, yn wir, cyfiawn yw gyda Duw dalu yn ol orthrymder i'r rhai sydd yn eich gorthrymmu chwi,
7ac i chwithau, y rhai a orthrymmir, esmwythhâd gyda nyni, yn Nadguddiad yr Arglwydd Iesu o'r Nef, gydag angelion ei allu, mewn fflam o dân,
8gan dalu dial i'r rhai nad adwaenant Dduw, ac i'r rhai nad ufuddhânt i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist,
9yn gyfryw ag a dderbyniant gospedigaeth, sef dinystr tragywyddol oddiwrth wyneb yr Arglwydd, ac oddiwrth ogoniant ei nerth,
10pan ddel Efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i'w ryfeddu yn y rhai oll a gredasant, yn y Dydd hwnnw, (o herwydd i'n tystiolaeth ni gael ei chredu gennych chwi).
11Er mwyn hyn hefyd yr ydym yn gweddio yn wastadol drosoch, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'ch galwedigaeth, ac y cyflawno eich pob dyhead am ddaioni, a phob gwaith ffydd, gyda gallu;
12fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ol gras ein Duw ni a'r Arglwydd Iesu Grist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.