Matthew 15 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Gair Duw a thraddodiadau dynol.[Marc 7:1–23]

1Yna y mae yn dyfod at yr Iesu o Jerusalem, Phariseaid ac Ysgrifenyddion, gan ddywedyd,

2Paham y mae dy Ddysgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi dwylaw pan fwytaont fara.

3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi hefyd yn troseddu gorchymyn Duw o herwydd eich traddodiad chwi?

4Canys Duw a ddywedodd,

Anrhydedda dy dad a'th fam. ac,

Yr hwn a ddifenwo dad neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth.

5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynag y'th lesolir drwyddi oddiwrthyf fi, efe

6nid anrhydedda ei dad. A chwi a wnaethoch air Duw yn ddirym o herwydd eich traddodiad.

7O ragrithwyr, da y proffwydodd Esaiah am danoch chwi, gan ddywedyd,

8Y bobl hyn a'm hanrhydeddant â'u gwefusau,

Ond eu calon sydd bell iawn oddiwrthyf;

9Eithr yn ofer y'm haddolant I,

Gan y dysgant fel eu dysgeidiaeth orchymynion dynion.Yr hyn a gyfansodda wir burdeb.

10Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deallwch.

11Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i'r genau sydd yn halogi y dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hyny sydd yn halogi y dyn.

12Yna y daeth ei Ddysgyblion, ac y maent yn dywedyd wrtho, A wyddost ti i'r Phariseaid gael eu tramgwyddo pan y clywsant y gair?

13Ac yntau a atebodd a ddywedodd, Pob planigyn, yr hwn ni phlanodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.

14Gadewch iddynt. Arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a arweinia ddall, y ddau a syrthiant i bwll.

15A Phetr a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg.

16Ac efe a ddywedodd, A ydych chwithau hefyd hyd yn hyn heb ddeall?

17Oni chanfyddwch fod yr hyn oll sydd yn myned i fewn i'r genau yn myned i'r bol, ac y bwrir ef allan i'r geudy?

18Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau a ddeuant allan o'r galon; a hwy sydd yn halogi y dyn.

19Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, llofruddiaethau, godinebau, puteiniadau, lladradau, cam‐dystiolaethau, cableddau:

20dyma y pethau sydd yn halogi y dyn; eithr bwyta â dwylaw heb eu golchi nid ydynt yn halogi y dyn.

Ffydd y wraig a gwellhad ei merch.[Marc 7:24–30]

21A'r Iesu a aeth allan oddiyno, ac a giliodd i barthau Tyrus a Sidon.

22Ac wele wraig oedd Ganaanëes a ddaeth allan o'r cyffiniau hyny, ac a lefodd, gan ddywedyd, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a feddiannir yn ddrwg gan gythraul.

23Eithr nid atebodd efe air iddi. A daeth ei Ddysgyblion, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hol.

24Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd I ond at ddefaid colledig ty Israel.

25Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, cymhorth fi.

26Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant a'i fwrw i'r cwn.

27Eithr hi a ddywedodd, Gwir, Arglwydd; canys y mae y cwn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu meistriaid.

28Yna yr atebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A iachawyd ei merch o'r awr hono.

Porthi y Pedair Mil.[Marc 7:31—8:10]

29A'r Iesu a symmudodd oddiyno, ac a ddaeth at lan môr Galilea; ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac ereill lawer; a hwy a'u taflasant i lawr wrth ei draed, ac efe a'u hiachaodd hwynt:

31fel y rhyfeddodd y torfeydd wrth weled y mudion yn llefaru, yr anafusion yn iach, a'r cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled; a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32A galwodd yr Iesu ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta, ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith yn newynog, rhag iddynt ddiffygio ar y ffordd.

33A'r Dysgyblion a ddywedant wrtho, Pa le y caem ni gynnifer o dorthau yn y diffaethwch fel y digonid tyrfa gymmaint?

34A'r Iesu a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.

35Ac efe a orchymynodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear.

36Efe a gymmerodd y saith dorth a'r pysgod; ac a ddiolchodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd;

37a hwy oll a fwytasant ac a ddigonwyd; ac a godasant o weddill y briwfwyd saith fasgedaid yn llawn.

38A'r rhai a fwytasant oeddynt bedair mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant.

39Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i'r cwch, ac a ddaeth i gyffiniau Magadan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help