1Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw Dâd a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd
2Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau,
3gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tâd;
4gan wybod, frodyr anwyl gan Dduw, eich etholedigaeth,
5na ddaeth ein hefengyl ni attoch mewn ymadrodd yn unig, ond hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn llawn‐sicrwydd, — fel y gwyddoch pa fath rai a fuom yn eich plith er eich mwyn chwi.
6A chwi a ddaethoch yn efelychwyr o honom ni ac o'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Yspryd Glân,
7fel yr aethoch yn siampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac yn Achaia:
8canys oddiwrthych chwi y seiniwyd allan Air yr Arglwydd, nid yn unig yn Macedonia ac Achaia, ond ym mhob man y mae eich ffydd tuag at Dduw wedi ymledaenu, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim;
9canys hwy eu hunain sydd yn mynegi am danom, y fath ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eilunod, i wasanaethu y bywiol a'r gwirioneddol Dduw,
10ac i ddysgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe oddiwrth y meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o'r digofaint sydd yn dyfod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.