1Cynnifer ag sydd dan yr iau yn gaethweision, cyfrifent eu meistriaid eu hunain yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw a'r athrawiaeth.
2A'r rhai sydd ganddynt feistriaid crediniol, na ddiystyrent hwynt am eu bod yn frodyr, ond gwasanaethent hwy yn fwy, am fod y rhai sydd yn gyfrannogion o'r lleshâd yn gredinwyr ac yn anwyliaid. Y pethau hyn dysg a chynghora.
Y gau‐athrawon.3Os dysg neb yn wahanol, ac heb gydsynied â geiriau iachus, sef eiddo ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb,
4y mae wedi ei dywyllu, heb wybod dim, ond yn pendroni ynghylch cwestiynau ac ymryssonau ynghylch geiriau, o'r rhai y cyfyd cenfigen, cynhen, cabl‐eiriau, drwg‐dybiau,
5ymrafaelion dibaid dynion llygredig eu meddwl, ac yn amddifad o'r gwirionedd, y rhai a dybiant fod duwioldeb yn ffynnonnell elw.Peryglon Cyfoeth
6Ond y mae duwioldeb gyda boddlonrwydd yn elw mawr.
7Canys ni ddygasom ddim i'r byd, canys ni allwn ddwyn dim allan chwaith;
8ond gan fod gennym ymborth a dillad, a'r pethau hyn y'n digonir.
9Ond y rhai a fynnant ymgyfoethogi a syrthiant i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, yn gyfryw ag sydd yn suddo dynion i ddinystr a cholledigaeth;
10canys y mae ariangarwch yn wreiddyn pob drwg, a rhai, wedi chwantu am arian, a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, ac a drywanasant eu hunain a llawer o ofidiau.
Y Diweddglo.11Eithr tydi, ŵr Duw, gochel y pethau hyn, a dylyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwynder.
12Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i'r hwn hefyd y'th alwyd, ac y cyffesaist y gyffes dda gerbron llawer o dystion.
13Yr wyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn cadw pob peth yn fyw, a Christ Iesu, yr hwn yn amser Pontius Pilat a dystiodd y gyffes dda,
14gadw o honot y gorchymyn heb frycheuyn, yn ddiargyhoedd, hyd Ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,
15yr hwn yn ei amserau ei hun a ddengys y Bendigedig Dduw a'r unig Bennaeth, Brenin y rhai a deyrnasant, Arglwydd y rhai a arglwyddiaethant,
16yr hwn yn unig sydd ganddo Anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni nas gellir dyfod atto, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac nis dichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen.
17Gorchymyn i'r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel‐feddwl, ac na osodont eu gobaith ar olud anwadal, eithr ar Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog, er mwynhâd;
18ar iddynt wneuthur daioni, ac ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, bod yn gyfranwyr da, ac yn gymdeithasgar,
19gan drysori iddynt eu hunain sail dda ar gyfer y dyfodol, fel y caffont afael ar y bywyd gwirioneddol.
20O Timotheus, gwarchod yr hyn a roed i'th gadwraeth, gan droi oddiwrth y gwag‐siaradach halogedig, a gwrth‐osodiadau y wybodaeth a gam-enwir felly
,21yr hon, a rhai yn ei phroffesu, hwy, mewn perthynas i'r Ffydd, a ŵyrasant oddiwrth y nod. Gras fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.