1A'r holl luaws o honynt a gyfodasant, ac a'i harweinasant ef at Pilat.
2A hwy a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyr‐droi ein Cenedl, ac yn gwahardd rhoddi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.
3A Philat a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist yn y dyn hwn.
5Ond hwy a wnaethant ymegnio, gan ddywedyd, Y mae efe yn cynhyrfu, efe a ofynodd, Ai Galilead yw y dyn?
7A phan wybu efe yn hollol ei fod ef o gylch awdurdod Herod, efe a'i danfonodd ef i fyny at Herod, yr hwn hefyd oedd yn Jerusalem yn y dyddiau hyny.
Crist o flaen Herod Antipas.8A Herod pan welodd yr Iesu, a fu lawen iawn ganddo: canys yr oedd efe yn awyddus er amseroedd meithion ei weled ef, o herwydd iddo glywed am dano, ac yr oedd yn gobeithio gweled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur ganddo.
9Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; ond efe ei hun nid atebodd ddim iddo.
10A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn sefyll gan ei gyhuddo ef â'u holl egni.
11Eithr Herod gyd a'i finteioedd, wedi ei drin ef gyd â dirmyg, a'i watwar, a'i gwisgodd mewn gwisg ddysglaerwych.
12A'r dydd hwnw y daeth Herod a Pilat yn gyfeillion â'u gilydd: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.
Iesu a Barabbas[Mat 27:15–21; Marc 15:6–11; Ioan 18:38–40]13A Philat wedi galw ynghyd yr Arch‐offeiriaid a Llywodraethwyr y Bobl,
14a ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un yn gŵyr‐droi y Bobl; ac wele mi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai o ran y pethau yr ydych yn ei gyhuddo ef am danynt:
15nac hyd y nod Herod; canys efe a'i hanfonodd ef yn ol atom ni: ac wele dim yn haeddu marwolaeth sydd wedi ei wneuthur ganddo:
16am hyny, mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf ef yn rhydd.
17
18Ond yr holl luaws ynghyd a waeddasant yn uchel, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:
19y fath un am ryw derfysg a gymmerodd le yn y Ddinas, ac am lofruddiaeth, a fwriwyd i'r carchar marwolaeth ynddo: gan hyny mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.
23A hwy a wasgasant arno â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a orfuant;
24a Philat a ddyfarnodd i'w deisyfiad gael ei wneuthur:
25ac efe a ollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth oedd wedi ei fwrw i garchar, yr hwn a ddeisyfasant; eithr yr Iesu a draddododd efe i fyny i'w hewyllys hwynt.
Ar y Ffordd i'r Groes[Mat 27:31, 32; Marc 15:20, 21]26A phan yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a gymmerasant afael mewn un Simon, O Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu.
27Ac yr oedd yn ei ganlyn ef luaws mawr o'r bobl; hefyd o wragedd, y rhai oeddynt yn curo eu bronau, ac yn galaru o'i blegyd.
28Eithr yr Iesu, gan droi atynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, Na wylwch allan droswyf fi; yn hytrach, wylwch allan drosoch ein hunain a thros eich plant.
29Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn fyd y gwragedd anmhlantadwy, a'r crothau ni epiliasant, a'r bronau ni roisant faeth.
30Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom ni,
Ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
31Canys os ydynt yn gwneuthur y pethau hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin?
Y Croeshoeliad[Mat 27:33–36, 38; Marc 15:22–27; Ioan 19:16–18]32Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg‐weithredwyr, i'w rhoddi i farwolaeth.
33A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, [yn y Lladin, Calfaria], yno y croeshoelisant ef a'r Drwg‐weithredwyr, un ar y llaw ddeheu a'r llall ar yr aswy.
34Ond yr Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt. A chan ranu yn eu plith ei wisgoedd uchaf, hwy a fwriasant goelbren.
35A'r bobl a safodd yn edrych yn syn. Ond y Llywodraethwyr hyd y nod a wawdiasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe: gwareded ei hun, os hwn yw Crist Duw, ei Etholedig.
36A'r milwyr hefyd oeddynt yn ei watwar ef, gan ddyfod, a chynyg iddo finegr,
37a dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iuddewon, gwared dy hun.
38Ac yr oedd hefyd ar‐ysgrifen uwch ei ben,,
Brenin yr Iuddewon yw hwn.
39Ac un o'r Drwg‐weithredwyr a grogasid oedd yn ei gablu ef, gan ddywedyd, Ai nid tydi yw y Crist? Gwared dy hun a ninau.
40Ond y llall a atebodd, a chan ei geryddu ef, a ddywedodd, Onid wyt ti hyd y nod yn ofni Duw, gan dy fod yn yr un farnedigaeth?
41A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yn ol yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: ond hwn ni wnaeth ddim allan o le.
42Ac efe a ddywedodd, O Iesu, cofia fi, pan y deui yn dy Deyrnas.
43Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi yn y Baradwys y chweched awr, a daeth tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr,
45gan fod yr haul yn methu; a llen y Cysegr a rwygwyd yn ei chanol.
46Ac wedi i'r Iesu lefain â llef uchel, efe a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylaw di y cyflwynaf fy Yspryd: ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd allan ei fywyd
.47A phan welodd y Canwriad yr hyn a wnaethpwyd, efe a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn sicr yr oedd y gwr hwn yn gyfiawn.
48A'r holl dorfeydd y rhai a ddaethant ynghyd i'r olygfa hon, wedi edrych yn syn ar y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant gan guro eu dwyfronau.
49A'i holl gydnabyddion ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd a'i canlynasant ef o Galilea, gan weled y pethau hyn.
Claddedigaeth Crist[Mat 27:57–61; Marc 15:42–47; Ioan 19:38–42]50Ac wele wr o'r enw Joseph, yr hwn oedd Gynghorwr, yn wr da a chyfiawn,
51(yr hwn ni chydsyniodd â'u cynghor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathea, dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw:
52hwn a aeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu.
53Ac efe a'i tynodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn llian mewn bedd wedi ei naddu mewn craig, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed eto.
54Ac yr oedd yn ddydd y Parotoad, a'r Sabbath oedd yn dynesu.
55A'r gwragedd, y rhai a ddaethant gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant yn dyn ar ol, ac a edrychasant yn graffus ar y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef.
56A phan ddychwelasant, hwy a barotoisant ber‐aroglau ac enaint. Ac ar y Sabbath hwy a orphwysasant yn ol y Gorchymyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.