Galatiaid 6 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yspryd gwasanaethgar a'i wobr.

1Frodyr, hyd y nod os delir un yn ddiarwybod mewn rhyw drosedd, chwychwi y rhai sydd ysprydol, adferwch y cyfryw un mewn yspryd addfwynder; gan edrych attat dy hun, rhag dy demtio dithau hefyd.

2Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly y llawn‐gyflawnwch ddeddf Crist.

3Canys os tybia neb ei fod yn rhywbeth, pan nad yw ddim, y mae yn twyllo ei feddwl ei hun.

4Eithr profed pob un ei waith ei hun, ac yna y bydd iddo ei ymffrost mewn perthynas iddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn perthynas i un arall;

5canys pob un a ddwg ei faich ei hun.

6A chyfranned yr hwn a addysgir yn y gair â'r hwn sydd yn ei addysgu ym mhob peth da.

7Na thwyller chwi; ni watworir Duw; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fêd efe.

8Canys yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth; eithr yr hwn sydd yn hau i'r Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragywyddol.

9Ac mewn gwneuthur daioni na ddïgalonwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, os heb ddiffygio.

10Gan hynny felly, fel y mae gennym amser cyfaddas, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ond yn enwedig tuag at y rhai o deulu y ffydd.

Y Diweddglo.

11Gwelwch a pha fath lythyrennau breision yr ysgrifennais attoch chwi â'm llaw fy hun.

12Cynnifer ag sydd yn ewyllysio gwneuthur ymddangosiad ffafriol yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich gorfodi i'ch enwaedu, yn unig fel nad erlidier hwy am Groes Crist.

13Canys nid yw hyd y nod hwy y rhai a enwaedir yn cadw y ddeddf eu hunain, ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi.

14Eithr na atto Duw i mi ymffrostio ond yng Nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hon y mae y byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd.

15Canys enwaediad nid yw ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd.

16A chynnifer ag a rodiant yn ol y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.

17O hyn allan na fydded i neb beri blinderau i mi; canys myfi wyf yn dwyn nodau yr Iesu yn fy nghorph.

18Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch yspryd chwi, frodyr. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help