1Deisyf arnoch gan hynny yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o'r alwedigaeth â'r hon y'ch galwyd,
2gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir‐ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad,
3gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yn rhwymyn tangnefedd.
4Un corph sydd, ac un Yspryd, megys ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5un Arglwydd, un Ffydd, un Bedydd,
6un Duw a Thâd pawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
7Eithr i bob un o honom y rhoed
Unoliaeth ac amrywiaeth doniau.y gras yn ol mesur dawn Crist.
8O ganlyniad, y mae efe yn dywedyd:
Pan esgynodd i'r uchelder, caethiwodd gaethiwed i barthau isaf y ddaear?
10Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y llanwai bob peth.
11Ac efe a roddes rai yn apostolion y saint i waith gwasanaeth,
13i adeiladaeth Corph Crist, hyd oni chyrhaeddom oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith, ac i fesur maintioli cyflawnder Crist;
14fel na byddom mwyach yn fabanod, yn cael ein taflu gan donnau a'n cludo amgylch ogylch gan bob gwynt athrawiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol cynllwyn twyll;
15eithr gan fyw gwirionedd mewn cariad, y cynnyddom ym mhob peth iddo ef, yr hwn yw y Pen, Crist,
16o'r hwn y mae yr holl gorph, wedi ei gyd‐gyflunio a'i gyd‐gyssylltu trwy yr hyn y mae pob cymmal yn ei gyflenwi, yn ol gweithrediad, mewn mesur pob rhan unigol, yn gwneuthur cynnydd y corph i'w adeiladaeth ei hun mewn cariad.
Rhaid rhoddi i fyny yr hen fywyd.17Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y Cenhedloedd hefyd yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,
18wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi ymddyeithrio oddiwrth fywyd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt, o herwydd caledrwydd eu calon;
19y rhai, wedi colli pob teimlad, a roisant eu hunain i fyny i anlladrwydd, i wneuthur pob aflendid gyda gwancusrwydd.
20Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist,
21(os, yn wir, y clywsoch chwi ef ac y'ch dysgwyd ynddo ef fel y mae Gwirionedd yn yr Iesu) sef,
22dodi o honoch oddiwrthych, mewn perthynas i'ch ymarweddiad gynt, yr hen ddyn, yr hwn sydd yn llygru yn ol chwantau Twyll,
23a'ch adnewyddu trwy yspryd eich meddwl,
24a gwisgo am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol delw Duw, a grewyd mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd y Gwirionedd.
Amryfal ddyledswyddau.25Am hynny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un wrth ei gymmydog, oblegyd aelodau ydym o'n gilydd.
26Digiwch ac na phechwch; na fachluded yr haul ar eich cythrudd,
27ac na roddwch le i Ddiafol.
28Yr hwn a ladratta, na ladrattâed mwyach, eithr yn hytrach llafuried, gan weithio â'i ddwylaw ei hun yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn sydd mewn angen.
29Na ddeued unrhyw ymadrodd iselwael allan o'ch genau, eithr y cyfryw a fyddo dda er adeiladaeth fel bo'r angen, fel y rhoddo ras i'r gwrandawyr.
30Ac na thristêwch Yspryd Glân Duw, yn yr hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
31Tynner ymaith oddiwrthych bob chwerwder, a llid, a dig, a dadwrdd, a chabledd, ynghyd â phob drygioni;
32a byddwch gymmwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, gan faddeu i'ch gilydd, megys hefyd y maddeuodd Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.