Ephesiaid 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cynghorion cyffredinol.

1Byddwch gan hynny efelychwyr Duw, fel plant anwyl;

2a rhodiwch mewn cariad, megys hefyd y carodd Crist chwi, ac a draddododd ei hun trosoch yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.

3Ond godineb a phob aflendid, neu drachwant, nac hyd y nod enwer yn eich plith, fel y gwedda i saint;

4nac anniweirdeb, na ffol‐siarad, neu goeg‐ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus; eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5Canys gwybyddwch hyn, gan gydnabod nad oes i bob putteiniwr, neu aflan, neu un trachwantus, yr hwn sydd eilun‐addolwr, etifeddiaeth yn Nheyrnas Crist a Duw.

6Na thwylled neb chwi â geiriau ofer, canys oblegyd y pethauh yn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion anufudd‐dod.

7Gan hynny na fyddwch gyfrannogion â hwynt.

8Canys yr oeddech chwi unwaith yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;

9(canys ffrwyth y goleuni sydd ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd;)

10gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd;

11ac na fydded i chwi gymdeithasu â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach dygwch hwynt i brawf;

12canys y mae yn gywilyddus hyd y nod adrodd y peth a wneir ganddynt yn ddirgel.

13Canys pob peth pan eu profir, a wneir yn amlwg gan y goleuni;

14canys pob peth a wneir yn amlwg, goleuni yw. O herwydd hyn y mae yn dywedyd, Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a lewyrcha arnat.

15Gan hynny edrychwch yn ofalus pa fodd y rhodioch, nid fel annoethion, ond fel doethion,

16gan brynnu yn llwyr yr amser, oblegyd y dyddiau sydd ddrwg.

17O herwydd hyn na fyddwch yn fyr o synwyr, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae afradlonedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd,

19gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher‐seinio â'ch calon i'r Arglwydd;

20gan dalu diolch yn wastadol am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist i Dduw a'n Tâd,

21gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Crist.

Y Cartref Cristionogol.

22Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr eich hunain megys i'r Arglwydd;

23canys y gwr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr Eglwys, ac efe yw Iachawdwr y corph.

24Ond fel y mae yr eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr ym mhob peth.

25Y gwŷr, cerwch eich gwragedd megys hefyd y carodd Crist yr eglwys, ac a draddododd ei hun drosti,

26fel y sancteiddiai hi, gan ei glanhâu a'r olchfa ddwfr, trwy y gair,

27fel y cyflwynai efe ei hun iddo ei hun yr eglwys yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni na dim o'r cyfryw; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.

28Felly y dylai y gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig ei hun sydd yn ei garu ei hun;

29canys ni chashâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei feithrin a'i fynwesu y mae, megys Crist hefyd yr eglwys,

30oblegyd aelodau ydym o'i gorph ef.

31O achos hyn y gâd dyn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.

32Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr dywedyd wyf am Grist a'r eglwys.

33Ar wahân a hyn, chwithau hefyd, un ac un, cared pob un ei wraig ei hun fel ef ei hun; ac edryched y wraig ar barchu o honi ei gwr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help