1A bu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, Efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,
2Chwi a wyddoch mai wedi deuddydd y mae y Pasc, a Mab y Dyn a draddodir i'w groeshoelio.
3Yna yr ymgasglodd yr Archoffeiriaid, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas:
4a hwy a gydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.
5Ond dywedasant, Nid yn yr wyl, rhag bod cynhwrf yn mhlith y bobl.
Y galon gariadus a'r enaint gwerthfawr.[Marc 14:3–9; Ioan 12:1–9]6Ac a'r Iesu yn Bethania, yn nhy Simon, y gwahanglwyfus,
7daeth ato wraig, a chanddi lestr alabastr o enaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, fel yr eisteddai wrth y bwrdd.
8A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ffromasant, gan ddywedyd, I ba ddyben y golled hon?
9Canys fe a allasid gwerthu hwn am lawer, a'i roddi i'r tlodion.
10A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn peri blinder i'r wraig? Canys hi a weithiodd weithred dda mewn perthynas a mi.
11Canys y mae genych y tlodion bob amser gyda chwi; eithr myfi ni chewch bob amser.
12Canys hi yn tywallt yr enaint hwn ar fy nghorff, a'i gwnaeth ar gyfer fy nghladdu.
13Yn wir meddaf i chwi, pa le bynag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fyd, sonir am yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffadwriaeth am dani hi.
Bradwriaeth Judas.[Marc 14:10–11; Luc 22:3–6]14Yna yr aeth un o'r Deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr Archoffeiriaid,
15gan ddywedyd, Pa beth ydych yn foddlon i roddi i mi, a myfi i chwi a'i traddodaf ef? A hwy a bwysasant iddo ddeg ar hugain o arian
16Ac o hyny allan yr oedd efe yn ceisio cyfleusdra i'w draddodi ef.
Y Pasc olaf a'r Swper cyntaf.[Marc 14:12–21; Luc 22:7–23; Ioan 13:1–30]17Ac ar ddydd cyntaf y Bara Croyw, y Dysgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi i ni barotoi i ti fwyta y Pasc?
18Ac efe a ddywedodd, Ewch i'r Ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy adeg sydd yn agos: gyda thi y cadwaf y Pasc gyda'm Dysgyblion.
19A'r Dysgyblion a wnaethant fel y trefnodd yr Iesu iddynt, ac a barotoisant y Pasc.
20A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yn eistedd gyda'r Deuddeg Dysgybl.
21Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, y bradycha un o honoch fi.
22A hwythau yn drist iawn a ddechreuasant ddywedyd wrtho, un ac un, Ai myfi ydyw, Arglwydd?
23Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, yr hwn a drochodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnw a'm bradycha I.
24Mab y Dyn yn wir sydd yn ymadael, fel y mae wedi ei ysgrifenu am dano; eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu: Da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw.
25A Judas y Bradychwr a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi ydyw, Rabbi? Efe a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
Sefydliad y Swper.[Marc 14:22–26; Luc 22:19–20; 1 Cor 11:23–25]26Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymmerodd fara, ac a fendithiodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, ac a ddywedodd,
Cymmerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.
27Ac wedi iddo gymmeryd cwpan a diolch, efe a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd,
Yfwch bawb o hwn:
28Canys hwn yw fy ngwaed o'r Cyfammod,
Yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros lawer er maddeuant pechodau.
29Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o gwbl o hyn allan o gynnyrch hwn y winwydden hyd y dydd hwnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn Nheyrnas fy Nhad.
30Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd.
Rhagddywedyd Cwymp Petr.[Marc 14:27–31; Luc 22:31–34; Ioan 13:36–38]31Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir ynof fi y nos hon; canys y mae yn ysgrifenedig:—
Tarawaf y bugail,
A defaid y praidd a wasgerir ar led.
32Eithr wedi fy adgyfodi, myfi a âf o'ch blaen chwi i Galilea.
33A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb ynot ti, myfi ni rwystrir byth.
34Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, yn y nos hon, cyn canu o geiliog, teirgwaith ti a'm gwedi I.
35Y mae Petr yn dywedyd wrtho, Pe angenrhaid i mi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd y dywedodd yr holl Ddysgyblion.
Ing Gethsemane.[Marc 14:32–42; Luc 22:39–46; Ioan 18:1–2]36Yna y mae yr Iesu yn dyfod gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac y mae yn dywedyd wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf ymaith acw, a gweddio.
37Ac efe a gymmerodd gydag Ef Petr, a dau fab Zebedeus, ac a ddechreuodd fod yn drist ac yn drallodus iawn.
38Yna y mae efe yn dywedyd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu: aroswch yma a gwyliwch gyda mi.
39Ac wedi iddo fyned ychydig yn mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio a dywedyd, O fy Nhad, os yw yn bossibl, aed heibio oddiwrthyf y cwpan hwn: etto nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
40Ac y mae efe yn dyfod at ei Ddysgyblion, ac yn eu cael yn cysgu, ac a ddywed wrth Petr, Beth! Oni ellwch chwi wylied un awr gyda mi?
41Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod ond y cnawd sydd wan.
42Drachefn, yr ail waith, efe a aeth ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall hwn fyned heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.
43Ac efe a ddaeth drachefn, ac a'u cafodd hwynt yn cysgu: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.
44Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan lefaru yr un ymadrodd.
45Yna y mae efe yn dyfod at y Dysgyblion, ac a ddywed wrthynt, Cysgwch yr amser sydd weddill, a gorphwyswch. Wele, y mae yr awr wedi neshau, a Mab y Dyn sydd yn cael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid.
46Codwch, awn; wele, neshaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
Ei fradychu gan Judas.[Marc 14:43–52; Luc 22:47–53; Ioan 18:3–11]47Ac efe etto yn llefaru, wele Judas, un o'r Deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn oddiwrth yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl.
48A'r hwn a'i bradychodd ef a roddodd iddynt arwydd, gan ddywedyd, Pa un bynag a gusanwyf, hwnw ydyw, deliwch ef.
49Ac yn ebrwydd y daeth efe at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Rabbi, ac a'i cusanodd.
50A'r Iesu a ddywedodd, Gydymaith, wele yr hyn y daethost o'i blegyd. Yna y daethant, ac y rhoddasant ddwylaw ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.
51Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu a estynodd ei law, ac a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Archoffeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ef.
52Yna y dywed yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le; canys pawb a'r a gymmerant gleddyf a ddyfethir â chleddyf.
53Neu a wyt ti yn tybied nas gallaf ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yr awr hon i mi fwy na deuddeg lleng o angelion?
54Pa fodd, gan hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod?
55Yn yr awr hono y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megys at yspeiliwr y daethoch allan, â chleddyfau a ffyn, i'm cymmeryd i fyny? Yr oeddwn I beunydd yn y Deml yn eistedd ac yn dysgu; ac ni'm daliasoch.
56Eithr hyn oll sydd wedi ei wneuthur fel y cyflawnir Ysgrythyrau y Proffwydi. Yna yr holl Ddysgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.Crist o flaen y Gallu Eglwysig.[Marc 14:53–65; Luc 22:66–71]
57A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i harweiniasant ymaith at Caiaphas yr Archoffeiriad, lle yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Henuriaid wedi ymgasglu yn nghyd.
58A Phetr oedd yn ei ganlyn ef o hirbell, hyd yn Llys yr Archoffeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd a'r swyddogion, i weled y diwedd.
59A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor, oeddynt yn ceisio gau‐dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;
60ac ni chawsant, er dyfod gau‐dystion lawer; eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau,
61ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinystrio Cyssegr Duw, a'i adeiladu yn ystod tri diwrnod. A'r Arch‐offeiriad a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn dy osod ar lw drwy y Duw byw, fel y dywedi i ni, os tydi yw y Crist, Mab Duw?
64A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: er hyny, meddaf i chwi, O hyn allan y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef.
65Yna yr Arch‐offeiriad a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Efe a gablodd: paham y mae rhaid i ni bellach wrth dystion? wele, yr awrhon y clywsoch y cabledd.
66Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn haeddu
67Yna y poerasant i'w wyneb ef, ac a'i dyrnodiasant: eraill a'i cernodiasant,
68gan ddywedyd, Proffwyda i ni, Tydi Grist, pwy yw yr hwn a'th darawodd di?Cwymp Petr a'i Edifeirwch.[Marc 14:66–72; Luc 22:54–62; Ioan 18:15–27]
69A Phetr oedd yn eistedd allan yn y Llys: a daeth morwynig ato, gan ddywedyd, A thithau oeddyt gyda Iesu y Galilead!
70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, gan ddywedyd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r porth, gwelodd morwynig arall ef, a hi a ddywed wrth y rhai oedd yno, Ac yr oedd hwn gyda Iesu y Nazaread!
72A thrachefn efe a wadodd gyda llw, Nid adwaen I y dyn.
73Ac yn mhen ychydig daeth y rhai oedd yn sefyll, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wir yr wyt tithau hefyd yn un o honynt, canys y mae dy dafodiaith hefyd yn dy ddadguddio.
74Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen I y dyn. Ac yn y man ceiliog a ganodd.
75A chofiodd Petr y gair pan ddywedodd yr Iesu, Cyn cana ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.