Marc 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y cythreulig yn mhlith y beddau, a'i iachâd[Mat 8:28, 29; Luc 8:26–39]

1A hwy a ddaethant i'r ochr arall i'r môr, i wlad y Geraseniaid.

2Ac wedi iddo ddyfod allan o'r cwch, yn ebrwydd cyfarfu ag ef allan o'r beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo;

3yr hwn oedd a'i drigfan yn y beddau; ac ni allai neb a chadwyn mwyach ei rwymo ef:

4o herwydd iddo yn fynych gael ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau; ac ni allai neb ei ddofi ef.

5Ac yn wastad nos a dydd, yn y beddau, ac yn y mynyddoedd, yr oedd efe yn gwaeddi, ac yn briwio ei hun â cheryg.

6A phan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a ymgrymodd iddo.

7A chan waeddi a llef uchel, efe a ddywed, Beth sydd i ti a wnelyt a mi, O Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenyt fi.

8Canys efe a ddywedasai wrtho, Tyred allan, tydi yspryd aflan, o'r dyn.

9Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywed wrtho, Lleng yw fy enw i, canys yr ydym yn llawer.

10Ac efe a ddwys‐ymbiliodd lawer ag ef, na ddanfonai efe hwynt allan o'r wlad.

11Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn ymborthi.

12A hwy a ddwys‐ymbiliasant ag ef, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel yr awn i mewn iddynt.

13Ac efe a ganiataodd iddynt. A'r ysprydion aflan a ddaethant allan, ac a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr — ynghylch dwy fil — a hwy a dagwyd yn y môr.

14A'r rhai a'u porthent hwy a ffoisant, ac a'i mynegasant i'r ddinas, ac i'r lleoedd gwledig: a hwy a aethant allan i weled beth oedd yr hyn a wnaethid.

15Ac y maent yn dyfod at yr Iesu, ac yn dal sylw ar y cythreulig, yn eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, ie, yr hwn yr oedd wedi bod ynddo y Lleng; a hwy a ofnasant.

16A'r rhai a welsant a draethasant iddynt, y modd y dygwyddodd i'r cythreulig, ac ynghylch y moch.

17A hwy a ddechreuasant ymbil arno i ymadael o'u cyffiniau hwynt.

18Ac efe yn myned i'r cwch, yr hwn a fu gythreulig a ymbiliodd ag ef i gael bod gydag ef.

19Ac ni adawodd efe iddo, ond efe a ddywed wrtho, Dos i'th gartref at dy gyfeillion, a mynega iddynt pa bethau gymmaint y mae yr Arglwydd wedi eu gwneyd i ti, ac iddo drugarhau wrthyt.

20Ac efe a ymadawodd, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis pa gymmaint wnaeth yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.

Adgyfodiad merch Jairus. Iachâd y wraig a'r dyferlif gwaed[Mat 9:18–26; Luc 8:40–56]

21Ac wedi i'r Iesu groesi trosodd drachefn yn y cwch i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd efe wrth y môr.

22Ac y mae yn dyfod ato un o brif‐lywodraethwyr y Synagog, o'r enw Jairus, a phan ei gwelodd, efe a syrth wrth ei draed ef.

23Ac y mae efe yn dwys‐ymbilio lawer ag ef, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd bron marw: gwna ddyfod fel y gosodi dy ddwylaw arni, fel yr achuber hi, ac y bydd fyw.

24Ac efe a aeth gydag ef; a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a wasgasant arno.

25A gwraig, yr hon a flinid a dyferlif gwaed am ddeuddeng mlynedd,

26ac a ddyoddefodd lawer dan lawer o feddygon, ac a dreuliodd yr oll oedd ganddi, ac ni chafodd unrhyw leshâd, ond yn hytrach yr oedd yn waeth,

27pan glybu y pethau am yr Iesu, a ddaeth yn y dyrfa, o'r tu ol, ac a gyffyrddodd a'i wisg ef.

28Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf ond a'i ddillad ef, iach fyddaf.

29Ac yn ebrwydd sychodd ffynonell ei gwaed hi, a hi a wybu yn ei chorff ei bod wedi ei hiachau o'r clefyd.

30Ac yn ebrwydd yr Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod gallu wedi myned allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd a'm dillad?

31A'i Ddysgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a gyffyrddodd â mi?

32Ac efe a edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn.

33Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a wnaethid iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.

34Ac efe a ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd a'th iachaodd; dos mewn heddwch, a bydd holliach o'th glefyd.

35Ac efe eto yn llefaru, y maent yn dyfod o dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw. Paham yr wyt bellach yn poeni yr Athraw?

36A'r Iesu wedi dygwydd clywed y gair a ddywedasid, a ddywed wrth Brif‐lywodraethwr y Synagog, Nac ofna, yn unig cred.

37Ac ni adawodd efe i neb i ddylyn gydag ef, ond Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.

38Ac y maent yn dyfod i dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, ac y mae efe yn gweled y cynhwrf, a rhai yn wylo ac yn galarnadu llawer;

39ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywed wrthynt, Paham y gwnewch gynhwrf, ac yr wylwch? Ni fu farw y plentyn, eithr huno y mae.

40A hwy a'i gwatwarasant ef. Eithr efe ei hun, wedi bwrw pawb allan, a gymmer dâd y plentyn, a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac y mae yn myned i mewn lle yr oedd y plentyn.

41Ac efe a ymaflodd yn llaw y plentyn, ac a ddywed wrthi, Talitha, coum, yr hyn yw, wedi ei gyfieithu, Eneth, (yr wyf yn dywedyd wrthyt) Cyfod.

42Ac yn ebrwydd y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd o amgylch; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. Ac yn ebrwydd hwy a synasant gyda syndod mawr.

43Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwyta.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help