1Ofnwn gan hynny, rhag o ddygwydd fod addewid wedi ei gadael i ni fyned i mewn i'w orphwysfa ef, i neb o honoch ymddangos ei fod wedi syrthio yn fyr o honi.
2Canys efengylwyd i ninnau megys i hwythau; ond y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oeddynt hwy wedi eu cyd‐dymheru trwy ffydd â'r rhai a glywsant.
3Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r Orphwysfa, fel y dywedodd efe,
Fel y tyngais yn fy llid,
Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa,
Er fod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.
4Canys efe a ddywedodd mewn rhyw fan am y seithfed dydd fel hyn:
A gorphwysodd Duw ar y seithfed dydd oddiwrth ei holl weithredoedd.
5Ac yn y fan hon drachefn,
Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa.
6Am hynny, gan fod eto yn aros fod rhai i fyned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd iddynt yn flaenorol i mewn o herwydd anufudd‐dod,
7y mae efe drachefn yn pennu rhyw ddydd, Heddyw, gan ddywedyd yn Dafydd, ar ol cymaint o amser, megys y dywedwyd o'r blaen,
Heddyw, os clywoch ei lais ef,
Na chaledwch eich calonnau.
8Canys pe rhoddasai Josua iddynt hwy orphwysdra, ni lefarasai efe ar ol hynny am ddydd arall.
9Y mae gan hynny Sabbath‐Orphwysfa eto yng nghadw i bobl Dduw.
10Canys yr hwn a aeth i mewn i'w Orphwysfa ef, hwnnw hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd, megys y gwnaeth Duw oddiwrth yr eiddo yntau.
11Byddwn yn eiddgar gan hynny i fyned i mewn i'r Orphwysfa honno, fel na bo i neb syrthio yn ol yr unrhyw esiampl o anufudd‐dod.
12Canys byw yw Gair Duw, ac effeithiol, a llymach nag un cleddyf dau‐finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, cymalau a mêr hefyd, ac yn medru barnu dymuniadau a meddyliau y galon;
13ac nid oes creadur yn anamlwg yn ei olwg ef, eithr y mae pob peth yn noeth ac yn agored i lygaid yr hwn y mae gennym i roddi cyfrif iddo.
Cydymdeimlad dwfn ein Harch‐offeiriad goruchel.14Gan fod gennym, gan hynny, Arch‐offeiriad Mawr, yr hwn a aeth trwy y nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn afael yn ein cyffes.
15Canys nid oes gennym Arch‐offeiriad heb allu cydymdeimlo â'n gwendidau, ond wedi ei demtio ym mhob peth yn gyffelyb i ninnau, heb bechod.
16Nesäwn, gan hynny, gyda hyfder, at orseddfaingc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymhorth mewn pryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.