Dadguddiad Ioan 5 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Llyfr a'r seliau: Yr oen yn unig all ei agor.

1A gwelais ar law ddehau yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl.

2A gwelais angel cryf yn cyhoeddi mewn llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y Llyfr, ac i ddatod ei seliau ef?

3Ac ni allai neb yn y nef, nac ar y ddaear, na than y ddaear, agoryd y Llyfr, nac edrych arno.

4Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd y Llyfr, nac i edrych arno.

5Ac un o'r henuriaid a ddywed wrthyf, Nac wyla: wele y Llew yr hwn sydd o lwyth Judah, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd, i agoryd y Llyfr, a'i saith sêl ef.

6A gwelais yng nghanol yr Orsedd a'r pedwar creadur byw, ac yng nghanol yr henuriaid, Oen yn sefyll, fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai yw saith Yspryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaear.

7Ac efe a ddaeth ac a'i cymerodd o ddeheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr Orsedd.

8A phan gymerodd efe y Llyfr, y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar-hugain a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un delyn, a chrythau aur yn llawn o arogl‐darth, y rhai yw gweddïau y saint.

9A chanu y maent Gân Newydd, gan ddywedyd,

Teilwng wyt ti i gymeryd y Llyfr, ac i agoryd ei seliau ef;

Oblegyd ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw â dy Waed,

Allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl,

10Ac a'u gwnaethost hwy i'n Duw ni yn frenhiniaeth ac yn offeiriaid;

Ac y maent yn teyrnasu ar y ddaear.

11A gwelais, a chlywais lais angelion lawer o gylch yr Orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynnau o fyrddiynnau, a miloedd o filoedd,

12yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw yr Oen yr hwn a laddwyd i dderbyn y gallu, a'r cyfoeth, a'r doethineb, a'r cadernid, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r fendith.

13A phob peth crëedig yn y nef, ac ar y ddaear, a thàn y ddaear, ac ar y môr, a'r holl bethau sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd,

I'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen,

Y byddo y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r nerth, yn oes oesoedd.

14A'r pedwar creadur byw a ddywedasant, Amen. A'r henuriaid a syrthiasant i lawr ac a addolasant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help