1Am hynny, gan adael heibio yr ymadrodd dechreuol am y Crist, dyger ni ymlaen at berffeithrwydd, heb osod i lawr drachefn i ni ein hunain sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tu ag at Dduw,
2i athrawiaeth bedyddiadau ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw hefyd a'r Farn dragwyddol:
3a hyn a wnawn os caniata Duw.
4Canys mewn perthynas i'r rhai a gawsant unwaith eu goleuo, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaed yn gyfranogion o'r Yspryd Glân,
5ac a brofasant mor dda yw Gair Duw a galluoedd yr Oes ar ddyfod,
6ac a syrthiasant ymaith, amhosibl yw eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn croeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei warthruddo yn gyhoeddus.
7Canys y tir yr hwn a yfodd y gwlaw sydd yn mynych ddyfod arno, ac sydd yn dwyn llysiau cymhwys i'r rhai y llafurir ef erddynt, sydd yn derbyn bendith oddiwrth Dduw;
8eithr os yn dwyn drain ac ysgall y mae yn wrthodedig ac yn agos i felldith, diwedd yr hwn fydd ei losgi.
Dysgwyliad o bethau gwell.9Ond yr ydym yn llawn gredu am danoch chwi, anwyliaid, y pethau gwell ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn.
10Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofio eich gwaith a'r cariad a ddangosasoch tu ag at ei enw ef, pan weiniasoch i'r saint, ac y parhêwch i weini.
11A chwenychwn i bob un o honoch ddangos yr un dyfalwch i gyrhaedd llawn‐sicrwydd gobaith hyd y diwedd;
12fel nad eloch yn fusgrell, ond yn efelychwyr y rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion.
Sicrwydd Addewidion Duw.13Canys wedi gwneud addewid i Abraham, Duw, oblegyd na allai dyngu i neb mwy, a dyngodd iddo ei hun,
14gan ddywedyd, Yn wir, gan fendithio mi a'th fendithiaf, a chan amlhau, mi a'th amlhâf;
15ac felly wedi hir ymaros, efe a gafodd yr addewid.
16Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy, ac y mae y llw yn derfyn iddynt hwy ar bob gwrth‐ddywedyd hyd at sicrhâd.
17Yn hyn, Duw, gan ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr Addewid anghyfnewidioldeb ei gyngor, a gyfryngodd â llw,
18fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai y mae yn amhosibl i Dduw ddywedyd celwydd, y gallem ni gael calondid cryf, y rhai a ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen,
19yr hwn sydd gennym megys angor yr enaid, yn ddyogel ac yn sicr, ac yn myned i'r tu fewn i'r llen,
20i'r man yr aeth yr Iesu yn rhag‐redegydd drosom ni, wedi ei wneuthur yn Arch‐offeiriad yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.