1A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan orphenodd, rhyw un o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dysg ni i weddïo, yr un modd ag y dysgodd Ioan ei Ddysgyblion.
2Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch,
O Dâd,
Sancteiddier dy enw.
Deled dy Deyrnas.
3Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara cyfreidiol.
Y cyfaill taer.5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch chwi fydd iddo gyfaill, ac a â ato haner nos, ac a ddywed wrtho, Gyfaill, dyro yn fenthyg i mi dair torth:
6canys cyfaill i mi a ddaeth ataf o daith, ac nid oes genyf beth i'w osod ger ei fron ef.
7Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: y mae y drws yn barod wedi ei gau; ac y mae fy mhlant bychain gyd â mi yn y gwely: nid wyf yn gallu codi drachefn a rhoddi i ti.
8Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os hyd y nod na rodda efe iddo gan gyfodi drachefn, o herwydd ei fod ef yn gyfaill iddo, eto o herwydd ei daerni digywilydd, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag sydd arno eu heisieu.
9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi:
10canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.
Y tâd daearol caredig: y Tâd nefol caredicach.11Ac i bwy o honoch chwi sydd dâd y gofyn ei fab dorth, ac a rydd gareg iddo yn ei lle? neu hefyd bysgodyn, ac a rydd iddo sarff yn lle pysgodyn?
12Neu hefyd a ofyn efe ŵy, a ddyry efe iddo ysgorpion yn ei le?
13Os chwi gan hyny, y rhai ydych ddrwg o'r dechreu, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd o'r Nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofynant ganddo?
Y Cythraul mud, a'r pechod yn erbyn yr Yspryd Glân[Mat 12:22–30]14Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul mud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r torfeydd a ryfeddasant.
15Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebwl, Penaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16Ac yr oedd eraill, gan ei demtio ef, yn ceisio arwydd allan o'r Nef ganddo.
17Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun sydd anghyfanedd; a phob tŷ yn erbyn tŷ sydd yn syrthio:
18ac os ydyw Satan hefyd wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei Deyrnas ef? Canys chwi a ddywedwch mai trwy Beelzebwl chwi yn eu bwrw allan? O herwydd hyn, hwynt‐hwy fyddant eich barnwyr chwi.
20Ond os trwy fys Duw yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, Teyrnas Dduw yn wir a'ch goddiweddodd.
21Pan fyddo y cryf wedi ei lawn arfogi yn gwylied ei anedd, y mae ei eiddo ef mewn heddwch.
22Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth, yn yr hon yr oedd wedi ymddiried, ac y mae yn rhanu ei anrheithion ef.
23Yr hwn nid yw gyd â mi sydd yn fy erbyn; a'r hwn nid yw yn casglu gyd â mi sydd yn gwasgaru, gan geisio gorphwysdra; a phan nad yw yn ei gael, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y daethum allan.
25A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drwsio.
26Yna y mae yn myned, ac yn cymmeryd ato saith yspryd arall, gwaeth nag ef ei hun: ac y maent hwy, wedi myned i mewn, yn trigo yno. Ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf.
Meddianydd gwir ddedwyddwch.27A bu, pan yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y grôth a'th ddug di, a'r bronau a sugnaist.
28Ond efe a ddywedodd, Felly, yn wir, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando Gair Duw, ac yn ei gadw.
Teithi y Genedlaeth, ac arwydd Duw iddi[Mat 12:38–42]29Ac fel yr oedd y torfeydd yn ymdyru ynghyd ato ef, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y Genedlaeth hon, cenedlaeth ddrwg ydyw: y mae yn ceisio arwydd: ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonah.
30Canys fel y bu Jonah yn arwydd i'r Ninifëaid; felly y bydd Mab y Dyn hefyd i'r genedlaeth hon.
31Brenines y Deheu a gyfyd yn y Farn gyd â gwŷr y genedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; canys hi a ddaeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele, fwy na Solomon yma.
32Gwyr o Ninifëaid a gyfodant i fyny yn y Farn gyd â'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi: canys hwy a edifarhasant wrth bregeth Jonah; ac wele fwy na Jonah yma.
Y Goleuni mewnol, a'r gwerthfawrogiad o hono[Mat 5:15; 6:22, 23]33Ni wna neb, wedi goleuo lamp, ei gosod mewn cudd‐gell, neu o dan y mesur‐lestr, ond ar y daliadyr, fel y gwelo y rhai a ddelo i mewn y goleuni.
34Lamp y corff yw dy lygad. Pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd ddysglaer: ond pan fyddo yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd yn dywyllwch.
35Edrych gan hyny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.
36Os dy holl gorff gan hyny sydd ddysglaer, heb fod un rhan yn dywyll, bydd yr oll yn ddysglaer, fel pan y mae y lamp yn ei dysglaerdeb llachar yn dy oleuo di.
Glendid allanol a phurdeb tufewnol[Mat 23:25, 26]37Ac fel yr oedd efe yn llefaru, Pharisead a ofynodd iddo giniawa gyd âg ef; ac efe a aeth i mewn, ac a eisteddodd i lawr wrth y bwrdd.
38A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymdrochasai fel elusen, ac wele, y mae pob peth yn lân i chwi.
42Ond gwae chwi, Y Phariseaid, canys yr ydych yn talu degwm o'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i'r Farn a Chariad Duw: ond y pethau hyn a ddylasech eu gwneuthur, heb fyned heibio y lleill.
43Gwae chwi, y Phariseaid, canys yr ydych yn caru y brif gadair yn y Synagogau, a'r cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd.
44Gwae chwi, canys yr ydych fel beddau anamlwg, a'r dynion a gerddant drostynt heb wybod hyny.
45Ac un o Ddysgawdwyr y Gyfraith gan ateb a ddywed wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn yr wyt yn dirmygu hyd y nod nyni.
46Ond efe a ddywedodd, gwae hefyd chwi, Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys yr ydych chwi yn beichio y bobl â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwychwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau âg un o'ch bysedd.
Cyfodi Cofadeiliau i Broffwydi llofruddiedig[Mat 23:29–36]47Gwae chwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, a'ch Tâdau chwi a'u lladdasant hwynt.
48Felly yr ydych chwi yn dystion, ac yn cymeradwyo yn hollol weithredoedd eich Tâdau; canys hwynt‐hwy a'u lladdasant, a chwithau sydd yn adeiladu eu beddau
.49O herwydd hyn hefyd Doethineb Duw a ddywedodd,
Mi a anfonaf atynt Broffwydi ac Apostolion,
A rhai o honynt hwy a laddant ac a erlidiant.
50Fel y gofyner gwaed yr holl Broffwydi a dywalltwyd,
O seiliad y byd, oddiar law y Genedlaeth hon;
51O waed Abel hyd waed Zechariah, yr hwn a ddyfethwyd rhwng yr Allor a'r Tŷ.
Ie, meddaf i chwi, gofynir ef oddiar law y Genedlaeth hon.
52Gwae chwi! Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys chwi a ddygasoch ymaith allwedd gwybodaeth: chwychwi eich hunain nid aethoch i mewn; a chwi a waharddasoch i eraill fyned i mewn.
53Ac wedi iddo ddyfod allan oddiyno, yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymosod yn angerddol arno ef, a'i groes‐holi ynghylch mwy a mwy o bethau:
54gan osod cynllwyn iddo, a dal ar rywbeth o'i enau ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.