1Yn y Dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyd â Duw, a Duw oedd y Gair.
2Hwn oedd yn y Dechreuad gyd â Duw.
Y Gair a'r Bydysawd.3Pob peth a wnaethpwyd trwyddo ef: ac hebddo ef ni wnaethpwyd hyd y nod un peth.
Y Gair a dynion.4Yr hyn sydd wedi ei wneuthur ynddo ef oedd Bywyd; a'r Bywyd oedd Oleuni dynion.
Y Gair a phechod.5A'r Goleuni sydd yn llewyrchu yn y Tywyllwch; a'r Tywyllwch nis gorthrechodd ef.
Y wawr a'r llawn‐oleuni.6A daeth gwr, wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan:
7hwn a ddaeth er tystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.
8Nid hwnw oedd y Goleuni, ond daeth fel y tystiolaethai am y Goleuni.
9Yr oedd y Goleuni gwirioneddol, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i'r byd.
10Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef, a'r byd nid adnabu ef.
11I'w etifeddiaeth
ei hun y daeth, a'i bobl ei hun nis croesawasant ef.12Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt hawl‐fraint i ddyfod yn blant Duw, sef i'r rhai sydd yn credu yn ei enw ef:
13y rhai a genedlwyd nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, ond o Dduw.
Crist: ei ymgnawdoliad a'i ras.14A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a ymbabellodd yn ein plith ni, ac ni a welsom ei Ogoniant ef, — Gogoniant megys yr Unig‐anedig oddiwrth y Tâd, ac efe yn llawn gras a gwirionedd.
15Y mae Ioan yn tystiolaethu am dano ef, ac yn para i lefain, gan ddywedyd Hwn oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
16Canys o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, hyd y nod gras am ras.
17Canys y Gyfraith a roddwyd trwy Moses: y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
18Nid oes neb erioed wedi gweled Duw: Duw Unig‐anedig, yr hwn sydd yn mynwes y Tâd, hwnw a eglurodd yr oll.
Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr[Mat 3:3; Marc 1:3; Luc 1:4]19A hon yw tystiolaeth Ioan, pan yr anfonodd yr Iuddewon ato ef, allan o Jerusalem, offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
20Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw y Crist.
21A hwy a ofynasant iddo, Beth ynte? Ai Elias wyt ti? Ac y mae efe yn dywedyd, Nag ê. Ai y Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nag ê.
22Dywedasant gan hyny wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd; beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun?
23Eb efe, Myfi wyf lef un yn gwaeddi,
Yn y Diffaethwch unionwch ffordd yr Arglwydd,
fel y dywedodd Esaiah y Proffwyd].
24Ac yr oeddynt wedi eu danfon oddiwrth y Phariseaid.
25A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hyny yr wyt ti yn bedyddio, os nad wyt ti y Crist, nac Elias, na'r Proffwyd?
26Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi wyf yn bedyddio mewn dwfr: yn eich canol chwi y mae un yn sefyll, yr hwn nid adwaenoch chwi,
27yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i,, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.
28Y pethau hyn a gymmerasant le yn Bethania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29Tranoeth y mae efe yn canfod yr Iesu yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd,
Wele Oen Duw,
Yr hwn sydd yn cymmeryd ymaith bechod y byd.
30Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ol i y mae gwr yn dyfod, yr hwn sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
31Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr fel yr amlygid ef i Israel, o herwydd hyn y daethum i, gan fedyddio mewn dwfr.
32Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Yr wyf wedi gweled yr Yspryd yn disgyn fel colomen allan o'r Nef, ac a arosodd arno ef.
33Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar bwy bynag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnw yw yr un sydd yn bedyddio mewn Yspryd Glân.
34Ac yr wyf wedi gweled, ac wedi tystiolaethu, mai hwn yw Mab Duw.
Y Dysgyblion boreuaf.35Tranoeth drachefn yr oedd Ioan yn sefyll a dau o'i Ddysgyblion ef;
36a chan edrych ar yr Iesu yn rhodio o amgylch, efe a ddywed, Wele Oen Duw.
37A'r ddau Ddysgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.
38A'r Iesu a droes; ac yn eu canfod hwynt yn canlyn, efe a ddywed wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, (yr hyn a olyga, wedi ei gyfieithu, Athraw), pa le yr wyt ti yn aros?
39Efe a ddywed wrthynt, Deuwch a chwi a welwch. Hwy a ddaethant gan hyny, ac a welsant lle y mae efe yn aros, ac a arosasant gyd âg ef y diwrnod hwnw: yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.
40Andreas, brawd Simon Petr, oedd un o'r ddau a glywsant o enau Ioan, ac a'i dylynasant ef.
41Y mae hwn yn cael gafael yn gyntaf yn ei frawd ei hun, Simon, ac y mae yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi cael gafael yn y Messia (yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Crist).
42Efe a'i dug ef at yr Iesu. Yr Iesu, wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Ioan).
Dysgyblion ychwanegol.43Tranoeth yr ewyllysiodd efe fyned allan i Galilea, ac y mae efe yn cael Philip, ac yn dywedyd wrtho, Canlyn fi.
44A Philip oedd o Bethsaida, o ddinas Andreas a Phetr.
45Y mae Philip yn cael Nathanael, ac a ddywed wrtho, Yr ydym wedi cael yr hwn yr ysgrifenodd Moses yn y Gyfraith, a'r Proffwydi, am dano, Iesu o Nazareth, mab Joseph.
46A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon unrhyw beth da ddyfod allan o Nazareth? Y mae Philip yn dywedyd wrtho, Tyred a gwel.
47Iesu a welodd Nathanael yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd am dano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes twyll.
48Y mae Nathanael yn dywedyd wrtho, Pa fodd y mae dy fod yn fy adnabod i? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw, pan oeddit tàn y ffigysbren, mi a'th welais di.
49Nathanael a atebodd iddo, Rabbi, Ti ydwyt Fab Duw; ti ydwyt Frenin Israel.
50Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Ai o herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di dan y ffigysbren, yr ydwyt ti yn credu? ti a weli bethau mwy na'r rhai hyn.
51Ac y mae yn dywedyd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a welwch y Nefoedd wedi agoryd, ac Angelion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.