Matthew 10 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Enwau a gwaith y Deuddeg Apostol.[Marc 3:16–19; Luc 6:13–16; Act 1:13]

1Ac wedi galw ei ddeuddeg Dysgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd.

2Ac enwau y deuddeg Apostolion ydynt y rhai hyn: y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;

3Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y Treth‐gasglwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus;

4Simon y Cananëad, a Judas Iscariot, yr hwn a'i bradychodd ef.

5Y Deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch ymaith i ffordd y cenedloedd, ac nac ewch i fewn i ddinas y Samariaid;

6ond ewch yn hytrach at golledig ddefaid tŷ Israel.

7Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Y mae Teyrnas Nefoedd wedi agoshau.

8Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid: yn rhad y derbyniasoch, yn rhad rhoddwch.

9Na feddwch aur, nac arian, nac efydd yn eich gwregysau,

10nac ysgrepan i daith, na dwy wisg, na sandalau, na ffon; canys teilwng y gweithiwr o'i gynnaliaeth.

11Ac i ba ddinas bynag neu bentref yr eloch, ymofynwch pwy ynddi sydd deilwng; ac yno aroswch hyd oni eloch allan.

12Ac wrth ddyfod i'r tŷ, cyferchwch well iddo.

13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; eithr oni fydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.

14A phwy bynag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau chwi, wrth fyned allan o'r tŷ hwnw neu o'r ddinas hono, ysgydwch ymaith lwch eich traed.

15Yn wir meddaf i chwi, bydd yn fwy goddefadwy i dir Sodom a Gomorrha yn Nydd y Farn nag i'r ddinas hono.

Annog i amynedd ac ymddiried yn Nuw.[Marc 6:7–11; Luc 9:1–5]

16Wele, myfi ydwyf yn eich danfon chwi allan fel defaid yn nghanol bleiddiaid: byddwch gan hyny gall fel y seirff, a didwyll fel y colomenod.

17Eithr ymogelwch rhag y dynion hyn: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau, ac yn eu Synagogau hwy a'ch fflangellant;

18a chwi a ddygir at lywiawdwyr a breninoedd o'm hachos I, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenedloedd.

19Eithr pan y'ch traddodant, na phryderwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch.

20Canys nid chwi sydd yn llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.

21Yna brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u rhoddant i farwolaeth.

22A chwi a gasheir gan bawb o herwydd fy enw I: eithr yr hwn a ymwrola hyd y diwedd, efe a fydd cadwedig.

23A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i'r llall: canys yn wir meddaf i chwi, ni orphenwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y Dyn.

24Nid yw y dysgybl yn uwch na'i athraw, a'r caethwas yn uwch na'i arglwydd.

25Digon i'r dysgybl ddyfod fel ei athraw, a'r caethwas fel ei arglwydd. Os galwasant arglwydd y tŷ Beelzebwl, pa faint mwy ei deulu?

Annog i wroldeb a chyffesiad.[Luc 12:1–10]

26Am hyny nac ofnwch hwynt: canys nid oes dim cuddiedig a'r nas datguddir; a dirgel a'r nas gwybyddir.

27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar benau tai.

28Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, a'r enaid nis gallant ei ladd; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddinystrio enaid a chorff yn Gehenna. y tô am geiniog, ac ni syrth un o honynt ar y ddaear heb eich Tâd chwi:

30ac y mae hyd y nod holl wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif.

31Nac ofnwch gan hyny: chwi ydych yn fwy gwerthfawr na llawer o adar y tô.

32Pob un, gan hyny, a'm cyffesa I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i cyffesaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.

33Ond pwy bynag a'm gwado I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd.

Rhaid gwahanu er sicrhau gwir undeb.

34Na thybiwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddaethum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.

35Canys daethum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

36A gelynion dyn fydd ei deulu ei hun.

37Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi: a'r hwn sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi.

38A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw yn deilwng o honof fi.

39Yr hwn sydd yn cael ei einioes a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegyd I a'i caiff hi.

Gwobr eu derbyniad.

40Y sawl sydd yn eich derbyn chwi sydd yn fy nerbyn I, a'r sawl sydd yn fy nerbyn I sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd I.

41Y sawl sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd a dderbyn wobr proffwyd; a'r sawl sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn a dderbyn wobr un cyfiawn.

42A phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn gwpanaid o ddwfr oer yn unig yn enw dysgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr o gwbl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help