Ioan 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Yr arwydd cyntaf: troi dwfr yn win.

1A'r trydydd dydd yr oedd priodas‐wledd yn Cana yn Galilea: ac yr oedd mam yr Iesu yno.

2A galwyd yr Iesu hefyd a'i Ddysgyblion i'r briodas‐wledd.

3A phan ballodd gwin, y mae mam yr Iesu yn dywedyd wrtho ef, Nid oes ganddynt win.

4Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O wraig? Ni ddaeth fy Awr i eto.

5Y mae ei fam yn dywedyd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

6Ac yr oedd yno chwech o ddyfr‐lestri meini, wedi eu gosod yn ol arfer puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddalient ddau neu dri bath yr un.

7Ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, Llenwch y dyfr‐lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.

8Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Tynwch allan a dygwch i lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.

9Ond pan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr sydd wedi dyfod yn win, ac ni wyddai o ba le y mae, (eithr y gwasanaethwyr a wyddent, y rhai oeddynt wedi tynu y dwfr) y mae llywodraethwr y wledd yn galw y priod‐fab, ac yn dywedyd wrtho,

10Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; a phan wedi yfed yn drwm, yna yr hyn sydd waeth: ti ydwyt wedi cadw y gwin da hyd yr awr hon.

11Hyn o ddechreu yr arwyddion a wnaeth Iesu yn Cana yn Galilea, ac a amlygodd ei ogoniant, a'i Ddysgyblion a gredasant arno ef.

Crist yn glanhâu y Deml y tro cyntaf[Mat 21:12, 13; Marc 11:15–17; Luc 19:45, 46]

12Wedi hyn efe a aeth i waered i Capernaum, efe, a'i Fam, a'i Frodyr, a'i Ddysgyblion: ac yno nid arosasant nemawr o ddyddiau.

13A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos, a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem.

14Ac efe a gafodd yn y Deml y rhai oedd yn gwerthu ychain a defaid, a cholomenod, a'r cyfnewidwyr arian yn eistedd.

15Ac wedi gwneuthur fflangell o fân-reffynau, efe a fwriodd allan oll o'r Deml, y defaid hefyd a'r ychain; ac a dywalltodd allan arian y cyfnewidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau;

16ac wrth y rhai oedd yn gwerthu y colomenod y dywedodd, Dygwch ymaith y rhai hyn oddiyma: na wnewch Dŷ fy Nhâd yn dŷ marchnad.

17Ei Ddysgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Zêl dy dŷ di a'm llwyr‐ysa i.

Rhag‐ddywedyd ei Farwolaeth a'i Adgyfodiad.

18Yr Iuddewon gan hyny a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?

19Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Tynwch i lawr y Cysegr hwn, ac mewn tridiau y cyfodaf ef.

20Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant, Yn yspaid chwe blynedd a deugain yr adeiladwyd y Cysegr hwn; ac a gyfodi di ef mewn tridiau?

21Ond efe a ddywedasai am Gysegr ei gorff.

22Pan gan hyny y cyfodwyd ef o feirw, ei Ddysgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn; a hwy a gredasant yr Ysgrythyr, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.

Crediniaeth mewn gwyrthiau yn unig yn ddiffrwyth.

23Ac fel yr oedd efe yn Jerusalem ar y Pasc yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.

24Ond yr Iesu ei hun nid ymddiriedodd ei hun iddynt, o herwydd yr adwaenai efe bawb;

25ac nad oedd raid iddo i neb dystiolaethu am ddyn; canys yr oedd efe ei hun yn gwybod pa beth oedd mewn dyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help