Rhufeiniaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Beirniad Iuddewig hefyd yn Gondemniedig.

1O herwydd paham, diesgus wyt, O ddyn, bob un sydd yn barnu, canys yn yr hyn yr wyt yn barnu y llall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu wyt yn gwneuthur yr un pethau.

2Ac ni a wyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau.

3Ac a wyt ti yn cyfrif hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thi yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag barn Duw?

4Neu a ddiystyri di olud ei ddaioni a'i oddefgarwch a'i hir‐ymaros, gan fod heb wybod fod rhodd ddaionus Duw yn dy dywys di i edifeirwch?

5Eithr yn ol dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw,

6yr hwn a dâl i bob un yn ol ei weithredoedd:

7i'r rhai, yn wir, mewn amynedd yn gwneuthur da a geisiant ogoniant, ac anrhydedd ac anllygredigaeth, y bydd bywyd tragwyddol;

8ond i'r rhai sydd gynhennus ac yn anufuddhau i'r gwirionedd, ond yn ufudd i annghyfiawnder, y bydd digofaint a llid,

9trallod a chyfyngder ar bob enaid dyn sydd yn gweithredu yr hyn sydd ddrwg, yr Iuddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd;

10ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sydd yn gweithredu yr hyn sydd dda, i'r Iuddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd:

11canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.

12Canys cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf, yn ddiddeddf hefyd a gyfrgollir; a chynnifer ag a bechasant dan ddeddf, trwy ddeddf a fernir;

13canys nid gwrandawyr deddf sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr deddf a gyfiawnheir.

14Canys pan fo Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt ddeddf, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau y ddeddf, y rhai hyn, heb ddeddf, ydynt ddeddf iddynt eu hunain,

15yn gyfryw ag sydd yn dangos gwaith y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, eu cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a'u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi,

16yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist.

Methiant yr Iuddew.

17Eithr tydi, os Iuddew y'th gyfenwir, ac ymorphwyso o honot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw;

18ac yn gwybod ei ewyllys, a chymmeradwyo y pethau rhagorol, wedi dy egwyddori allan o'r ddeddf;

19ac yn hyderus dy fod dy hun yn arweinydd y deillion, yn oleuni y rhai sydd mewn tywyllwch,

20yn ddysgyblydd y rhai ffol, yn ddysgawdwr y rhai bychain, a chennyt yn y ddeddf fraslun o wybodaeth a gwirionedd;

21tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter, a ladretti di?

22yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio yr eilunod, a gyssegr‐yspeili di?

23yr hwn wyt yn ymffrostio mewn deddf, trwy droseddiad y ddeddf yr wyt yn dianrhydeddu Duw.

24Canys enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir ym mhlith y Cenhedloedd, megys y mae yn ysgrifenedig.

25Canys enwaediad yn wir sydd yn lleshâu, os gwnei y ddeddf; eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, y mae dy enwaediad wedi myned yn ddienwaediad.

26Os y dienwaediad gan hynny a geidw ordeiniadau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad?

27A'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth, gan gyflawnu y ddeddf, a'th farna di, yr hwn, gyda'th Lythyren a'th Enwaediad, wyt droseddwr deddf.

28Canys nid yr hwn sydd oddi allan sydd Iuddew, ac nid yr hyn sydd oddi allan yn y cnawd sydd enwaediad.

29Eithr yr hwn sydd oddi mewn sydd Iuddew, ac enwaediad yw eiddo y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren, clod yr hwn nid yw o ddynion, ond o Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help