1Yn awr am y pethau yr ysgrifenasoch: Da i ddyn na chyffyrddo â gwraig.
2Ond o herwydd putteindra, bydded i bob dyn ei wraig ei hun; a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.
3Taled y gŵr i'r wraig yr hyn sydd ddyledus: a'r un modd hefyd y wraig i'r gŵr.
4Nid gan y wraig y mae awdurdod ar ei chorph ei hun, ond gan y gŵr; a'r un modd hefyd nid gan y gŵr y mae awdurdod ar ei gorph ei hun, ond gan y wraig.
5Na cham‐attaliwch oddiwrth eich gilydd, oddi eithr o gydsyniad dros dymhor, fel y galloch gael hamdden i weddi, ac fel y byddoch drachefn ynghyd, fel na themtio Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd,
6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd mewn ffordd o oddefiad ac nid mewn ffordd o orchymyn.
7Eithr mi a ewyllysiwn fod pob dyn fel mi fy hun. Eithr pob un sydd ganddo ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, un yn wir fel hyn, ac arall fel hynny.
8Ac yr wyf yn dywedyd wrth y rhai di‐briod a'r gwragedd gweddwon: Da iddynt ped arhosent fel myfi.
9Eithr os na allant ymgadw, priodent: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
Priodas rhwng credinwyr ac eraill.10Ac i'r rhai priod yr wyf yn gorchymyn — nid myfi, ond yr Arglwydd — Na ymwahaned gwraig oddiwrth ei gŵr
11(ond os ymwahana, arhosed heb briodi, neu cymmoder hi a'i gŵr); a gŵr, na ollynged ymaith ei wraig.
12Eithr wrth y lleill yr wyf fi yn dywedyd, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn cytuno i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith:
13a gwraig sydd ganddi ŵr digred, ac yntau yn cytuno i drigo gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr.
14Canys y mae y gŵr digred wedi ei sancteiddio yn y wraig, a'r wraig ddigred wedi ei sancteiddio yn y brawd: pe amgen, yn wir eich plant fyddent aflan, eithr yn awr sanctaidd ydynt.
15Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned: nid yw y brawd neu y chwaer yn gaeth yn y cyfryw amgylchiadau
: ond mewn heddwch y mae Duw wedi ein galw ni.16Canys pa fodd y gwyddost, O wraig, os achubi di dy wr? neu pa fodd y gwyddost, O wr, os achubi di dy wraig?
Ynghylch y sefyllfa o enwaediad ac o gaethwasiaeth.17Yn unig, fel y mae yr Arglwydd wedi rhannu i bob un, fel y mae Duw wedi galw pob un, felly rhodied. Ac felly yr wyf yn ordeinio yr holl eglwysi.
18Ai wedi ei enwaedu y galwyd neb? nac ymgeisied fod yn ddienwaededig. Ai mewn dienwaediad y mae neb wedi ei alw? nac enwaeder arno.
19Yr enwaediad nid yw ddim, a'r dienwaediad nid yw ddim; ond cadw gorchymynion Duw.
20Pob un yn yr alwedigaeth yn yr hon y galwyd ef, yn hon arhosed.
21Ai yn gaethwas y'th alwyd? Na ofala: os hefyd y gelli ddyfod yn rhydd, yn hytrach gwna ddefnydd o hynny.
22Canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, pan yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd yr hwn a alwyd pan yn rhydd, caethwas Crist ydyw.
23Er gwerth y'ch prynwyd; nac ewch yn gaethweision dynion.
24Pob un yn yr hyn y galwyd ef, frodyr, yn hyn arhosed gyda Duw.
Achos y gwyryfon.25Yn awr, ynghylch y gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd; ond barn yr wyf yn roddi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn.
26Am hynny yr wyf yn tybied fod hyn yn dda o achos yr angenrhaid presennol, gan ei bod yn dda i ddyn fod felly.
27A ydwyt yn rhwym i wraig? Na chais ollyngiad. A ydwyt yn rhydd oddiwrth wraig? Na chais wraig.
28Ac os priodi hefyd, ni phechaist; ac os prioda gwyryf, ni phechodd: er hynny blinder yn y cnawd a gä y cyfryw rai: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.
29A hynny yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr, y mae y tymhor wedi ei gyfyngu, fel o hyn allan y bydd y rhai sydd â gwragedd ganddynt megys pe byddent hebddynt;
30a'r rhai a wylant megys heb wylo; a'r rhai a lawenhânt megys heb lawenhâu; a'r rhai a brynant megys heb ddal meddiant yn dŷn;
31a'r rhai a ddefnyddiant y byd megys heb ei or‐ddefnyddio, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.
32A mi a ddymunwn i chwi fod yn ddibryder. Yr hwn sydd yn ddi‐briod sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, pa wedd y boddlona efe yr Arglwydd:
33eithr yr hwn a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y boddlona ei wraig; ac y mae efe wedi ei rannu.
34A'r wraig sydd ddi‐briod a'r wyryf sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn y corph ac yn yr Yspryd hefyd; ond yr hon a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y gall foddloni ei gŵr.
35A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er lleshâd i chwi eich hunain; nid fel y bwriwyf fagl am danoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb gythrudd.
36Ond os yw neb yn tybied ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd at y wyryf, os bydd o oedran addfed, a bod angenrhaid gwneuthur felly, gwnaed a fynno; nid yw yn pechu; priodent.
37Ond yr hwn sydd yn sefyll yn gadarn yn ei galon, heb angenrhaid arno, ond sydd ganddo awdurdod ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynnodd hyn yn ei galon ei hun, i warchod dros ei wyryf ei hun, efe a wna yn dda.
38Ac felly y mae yr hwn sydd yn rhoddi ei wyryf ei hun yn briod yn gwneuthur yn dda; a gwna yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod yn well.
Ynghylch gwragedd gweddwon.39Y mae gwraig yn rhwym tra fyddo byw ei gŵr; ond o bydd ei gŵr wedi huno, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno, yn unig yn yr Arglwydd.
40Ond dedwyddach yw os erys fel y mae, yn ol fy marn i: ac yr wyf yn tybied fod gennyf hefyd Yspryd Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.