1Annog yr wyf, gan hynny, yn gyntaf o bob peth, fod ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch fod dros bob dyn;
2dros frenhinoedd a phawb mewn safle uchel, fel yr arweiniom fywyd heddychlon a thawel mewn pob duwioldeb a difrifoldeb.
3Hyn sydd dda a chymmeradwy gerbron Duw ein Hiachawdwr,
4yr hwn sydd yn ewyllysio i bawb dynion fod yn gadwedig, ac i ddyfod i lawn wybodaeth o'r gwirionedd.
5Canys un Duw sydd
, un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, ei hun yn ddyn, Crist Iesu,6yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros bawb, yr hyn sydd i'w dystiolaethu yn ei amseroedd ei hun;
7i'r hyn y'm gosodwyd i yn gyhoeddwr ac Apostol (gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn dywedyd celwydd), yn ddysgawdwr y Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
Dyledswydd y gwyr a'r gwragedd.8Am hynny yr wyf yn ewyllysio i'r gwŷr weddio ym mhob man, gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter nac ymrafael.
9Yr un modd i'r gwragedd addurno eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gŵylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig, ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr;
10ond — yr hyn sydd yn gweddu i wragedd yn proffesu duwioldeb — trwy weithredoedd da.
11Dysged gwraig mewn llonyddwch gyda phob ymostyngiad.
12Ac nid wyf yn caniatau i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar wr, ond bod mewn llonyddwch;
13canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa;
14ac Adda ni thwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei hollol‐dwyllo, sydd wedi syrthio i gamwedd;
15ond cadwedig fydd trwy ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, gyda sobrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.