1Anwyliaid, na chredwch bob yspryd, eithr profwch lawer wedi myned allan i'r byd.
2Yn hyn yr ydych yn adnabod Yspryd Duw: Pob yspryd a'r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
3A phob yspryd a'r nid yw yn cyffesu Iesu, nid yw o Dduw; eithr hyn yw nodwedd
yr Anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, ac yn awr y mae yn y byd eisoes.4Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfygasoch hwynt, oblegyd mwy yw yr hwn sydd ynoch chwi na'r hwn sydd yn y byd.
5Hwynt‐hwy o'r byd y maent: o herwydd hyn o'r byd y llefarant, a'r byd a wrendy arnynt.
6Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw sydd yn ein gwrandaw ni; yr hwn nad yw o Dduw nid yw yn ein gwrandaw ni. Wrth hyn yr adwaenom Yspryd y Gwirionedd ac Yspryd cyfeiliornad.
Cariad Brawdol a Mabolaeth.7Anwyliaid, carwn ein gilydd, oblegyd cariad o Dduw y mae, a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y mae wedi ei genhedlu, ac y mae yn adnabod Duw.
8Yr hwn nid yw yn caru nid adnabu Dduw, oblegid DUW CARIAD YW.
9Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw ynom ni, oblegyd danfon o Dduw ei unig‐anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
10Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn Iawn am ein pechodau ni.
Cariad Brawdol ac undeb â Duw.11Anwyliaid, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
12Ni edrychodd neb ar Dduw erioed: Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom.
13Yn hyn y gwyddom ein bod yn aros ynddo, ac yntau ynom ninnau, am ei fod wedi rhoddi i ni o'i Yspryd.
14A ninnau a edrychasom ac ydym yn tystiolaethu ddarfod i'r Tâd ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr y byd.
15Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
16A nyni a wyddom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw ynom ni. DUW CARIAD YW, a'r hwn sydd yn aros mewn cariad sydd yn aros yn Nuw, ac y mae Duw yn aros ynddo yntau.
Cariad Duw yn sylfaen ymddiriedaeth.17Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y caffom hyfder Ddydd y Farn; oblegyd fel y mae efe, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
18Nid oes ofn mewn cariad: eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, oblegyd y mae i ofn gospedigaeth; a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.
19Yr ydym ni yn caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
20Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac yn casâu ei frawd, celwyddog yw; canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd a welodd, nis gall garu Duw, yr hwn nis gwelodd.
21A'r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.